Mae dyddiau agored yn ffordd wych o ddysgu mwy am brifysgolion a’r cyrsiau y maent yn eu cynnig.
Paratoi cyn y diwrnod
Os am gael y gorau o’r diwrnod, dylech ystyried yr hyn hoffech chi ei ddysgu a’i weld.
Cyn i chi fynd:
- Cofrestrwch i fynd i’r Diwrnod Agored. Efallai y bydd rhai prifysgolion yn gofyn i chi wneud hyn
- Meddyliwch pa gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi
- Edrychwch ar wefan y brifysgol, ac argraffwch neu lawrlwythwch fap o’r campws i ddod yn gyfarwydd â’r lle
- Edrychwch ar ddewisiadau o ran llety, a pha rai yr ydych chi eisiau eu gweld
- Dysgwch pa mor bell yw’r brifysgol o’r ddinas neu’r dref
- Trefnwch apwyntiad i ymweld â gwasanaethau myfyrwyr i wybod pa gymorth y gallant ei gynnig i chi
- Cynlluniwch eich diwrnod. Trefnwch eich cynlluniau teithio yn fuan
- Dewch o hyd i amseroedd gwahanol sgyrsiau a theithiau
- Nodwch pa gwestiynau hoffech chi eu gofyn
- Os oes gennych ofynion arbennig neu anableddau gallwch gysylltu â'r brifysgol cyn i chi ymweld er mwyn trafod yr hyn y bydd arnoch chi ei angen
Gwnewch ychydig o waith cartref o flaen llaw. Mae’n wastraff braidd pan fyddwch chi’n cyrraedd yno heb wybod beth ydych chi eisiau wybod.”
Aimee, myfyriwr blwyddyn 1af
Gwneud y gorau o’r diwrnod pan fyddwch chi yno
Beth i’w ofyn a ble i ymweld:
- Dysgwch bopeth y gallwch ynglŷn â’r cwrs
- Sut caiff y cwrs ei ddysgu?
- Beth yw’r modiwlau?
- Sut fyddwch chi’n cael eich asesu?
- Sawl darlith sydd bob wythnos?
- Pa raddau sydd eu hangen?
- Ewch ar daith tywys o gwmpas y campws er mwyn gweld pa gyfleusterau sydd yno
- Ymwelwch â'r gwasanaethau myfyrwyr i wybod am y gefnogaeth y gallant ei gynnig
- Ewch i edrych ar lety myfyrwyr a dysgu sut i ymgeisio. Mae bod yn fodlon gyda’ch llety yn rhan bwysig iawn o fwynhau eich profiad yn y brifysgol
- Ewch i’r undeb myfyrwyr ac i gyfleusterau eraill fel y ganolfan chwaraeon. Pa glybiau hoffech chi ymuno?
- Ewch i weld y dref neu’r ddinas agosaf. Ystyriwch lle gallech chi gael swydd ran-amser
- Os na allwch chi weld popeth mewn un ymweliad, trefnwch un arall
Ewch i gymaint o sgyrsiau ac ymweliadau adran ag sy’n bosibl.”
George, myfyriwr 2il flwyddyn
Mwy o wybodaeth
(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor.
Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.
Cewch gymorth yn dewis pynciau a chyrsiau. Cewch wybod am y gofynion mynediad, swyddi'r dyfodol, syniadau gyrfa, a'ch dull dysgu.