Os ydych dros 18 oed ac mae gennych Weithiwr Cymdeithasol, gall eich helpu i drefnu sut yr hoffech dreulio eich amser.
Beth alla i ei wneud ar gynllun diwrnod?
Bydd eich cynllun yn dibynnu ar eich anghenion a beth rydych chi eisiau ei wneud. Efallai yr hoffech:

Gyfarfod pobl newydd

Ddysgu sgiliau newydd a dod yn fwy annibynnol

Fynd allan i’r gymuned

Gael profiad o waith
Sut alla i gael gwybod mwy?
Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol yn:

Gweithio gyda chi i gael gwybod beth sydd ei angen arnoch

Siarad gyda chi am faint o ddiwrnodau y byddwch yn eu treulio ar eich cynllun diwrnod
Gallwch hefyd siarad gyda:

Teulu a ffrindiau i weld beth maen nhw’n ei feddwl o’r syniad

Eich Cynghorydd Gyrfa
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.

Dewch i wybod beth ddylech chi feddwl amdano i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.