Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Fy hawliau yn y gwaith

Os ydych yn dechrau swydd newydd mae gennych hawliau yn eich gweithle newydd. Y rheswm am hyn yw i wneud yn siŵr bod pawb yn cael ei drin yn deg.

Yr oriau rydych yn eu gweithio

Mae yna reolau am sawl awr yr wythnos y mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael gweithio:

 

Eicon o gloc

Ni ddylech weithio dim mwy na 48 awr yr wythnos (40 awr os ydych o dan 18 oed)

Eicon o berson yn cerdded a'r haul

Mae hawl gennych chi i gael un diwrnod i ffwrdd bob wythnos

Eicon o stopwats  gyda 20 mun

Fe ddylech gael egwyl o 20 munud os ydych yn gweithio am 6 awr neu fwy

Os ydych o dan 18 oed ac yn gweithio, mae gennych hawl i gael egwyl o 30 munud os ydych yn gweithio dros 4.5 awr.


Yr arian y byddwch chi’n ei gael am weithio – Isafswm cyflog

Eicon o cadw mi gei

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn cael swm penodol o arian am bob awr maen nhw’n  gweithio. Yr enw ar hyn yw cyflog.
 

Isafswm cyflog yw'r cyflog isaf yr awr y gellir talu gweithiwr. Darllenwch fwy am yr isafswm cyflog


Cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith - gwyliau

Eicon o galendr

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr yn gallu cymryd 4 wythnos o wyliau mewn blwyddyn. Rydych yn dal i gael eich talu am yr amser yma

Eicon o addurniad nadolig

Mewn rhai swyddi, bydd eich rheolwr yn dweud wrthych pryd y gallwch gymryd amser i ffwrdd. Mae rhai ffatrïoedd yn cau dros y Nadolig felly mae’r gweithwyr yn cymryd hyn fel eu gwyliau


Diogelwch yn y gwaith

Mae’n ddyletswydd ar gyflogwr i wneud yn siŵr bod y gweithle yn ddiogel. Mae’n gwneud hyn drwy wneud yn siŵr:

Eicon o focs cymorth cyntaf

Bod ganddynt rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf a hefo blwch cymorth cyntaf yn y gwaith

Eicon o helmed caled

Bod gan y staff y dillad cywir neu’r offer cywir os ydyn nhw’n defnyddio peiriannau all fod yn beryglus

Eicon o focs ar droli

Bod y staff yn gwybod sut i gario pethau trwm yn gywir

Eicon o ddiffoddwr tan

Bod y staff yn gwybod y rheolau diogelwch tân a sut i roi gwybod am ddamwain yn y gwaith


Cael eich trin yn annheg yn y gwaith - gwahaniaethu

Mae’n rhaid i gyflogwyr wneud yn siŵr bod eu holl staff yn cael eu trin yn deg. Os ydych yn meddwl bod rhywun yn eich trin yn annheg, dylech ddweud wrth eich cyflogwr.

Eicon o berson mewn cadair olwyn

Mae gwahaniaethu yn golygu bod rhywun yn cael ei drin yn wahanol i bobl eraill oherwydd pethau fel oedran, lliw, rhyw neu anabledd

Eicon o glustffonau

Os oes angen, dylai eich cyflogwr newid rhannau o’ch swydd er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu eu gwneud


Efallai y byddech hefyd yn hoffi