Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Helpwch eich plentyn i fanteisio i'r eithaf o weld cynghorydd gyrfa

Gallai eich plentyn gael cyfarfod un-i-un gyda chynghorydd. Bydd paratoi ar gyfer y sesiwn yn helpu'ch plentyn i gael y gorau ohono.

Mae'r cyfarfod yn ymwneud â'ch plentyn a'u camau nesaf. Does dim atebion cywir nac anghywir. Does dim pwysau ac fe ddylai hyn fod yn sgwrs hamddenol.

Efallai y byddwch yn cwrdd â chynghorydd gyrfa gyda'ch plentyn mewn:

  • Noson rieni neu gynnydd
  • Noson opsiynau
  • Cyfarfod rhithiol, ar-lein
  • Cyfarfod wyneb yn wyneb

Cyn y cyfarfod

Cyn i’ch plentyn gwrdd â’r cynghorydd gyrfa byddai’n ddefnyddiol pe gallech chi a’ch plentyn siarad am:

  • Eu syniadau ar gyfer y dyfodol
  • Unrhyw benderfyniadau y mae angen iddyn nhw eu gwneud yn fuan
  • Eu hopsiynau ar gyfer eu camau nesaf
  • Beth mae nhw'n ei fwynhau ac yn dda am wneud
  • Eu sgiliau, eu diddordebau a'u gwerthoedd
  • Beth sy'n eu cymell
  • Sut mae nhw'n hoffi dysgu

I helpu gyda'r sgyrsiau hyn edrychwch ar archwilio syniadau gyrfa gyda'ch plentyn. Bydd ein mannau cychwyn a’n hoffer yn helpu os nad oes gan eich plentyn unrhyw syniadau gyrfa, syniadau clir iawn neu os ydyw rhwng y ddau.

Bydd siarad am y pethau hyn gyda'ch plentyn yn help mawr i symud ymlaen â'r sgwrs gyda'r cynghorydd. Os ydyn nhw wedi meddwl am y pwyntiau hyn mae'r cynghorydd yn gallu trafod cwestiynau mwy penodol am gamau nesaf eich plentyn.

Atgoffwch eich plentyn ei bod hi'n iawn os nad yw'n siŵr o’i gamau nesaf. Dyma lle gall cynghorydd gyrfa helpu.

Anogwch eich plentyn i wneud nodyn o unrhyw gwestiynau yr hoffai ofyn. Gallai fod yn rhywbeth y mae eich plentyn yn ansicr ohono. Efallai y byddai'n gwestiwn penodol yr hoffen nhw ofyn i'r cynghorydd gyrfa.

Yn ystod y cyfarfod

Bydd yr ymgynghorydd yn:

  • Siarad â'ch plentyn am ei gynlluniau a'i opsiynau
  • Helpu nhw i feddwl am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw a sut mae nhw'n gwneud penderfyniadau
  • Helpu nhw i feddwl beth fyddai orau iddyn nhw
  • Cytuno ar y camau nesaf neu waith ymchwil pellach i helpu gyda'u penderfyniad

Os ydych chi yn y cyfarfod gallwch:

  • Roi cyfle i'ch plentyn ateb. Ceisiwch beidio siarad drostyn nhw
  • Gymryd nodiadau neu anogwch eich plentyn i wneud. Efallai bydd hyn yn help i gofio pethau ar ôl y cyfarfod
  • Ofyn gwestiynau am unrhyw beth rydych chi neu'ch plentyn yn ansicr ohono neu'n poeni amdano

Os oes gennych chi gyfarfod fideo neu gyfarfod ffôn dewch o hyd i le tawel i siarad. Gwnewch yn siŵr fod pawb yn gallu clywed ei gilydd. Mae cael mynediad i ddyfais arall yn ddefnyddiol fel y gallwch edrych ar unrhyw wefannau y gallai'r cynghorydd fod yn siarad amdanynt ar yr un pryd.

Wedi'r cyfarfod

Sgwrsiwch gyda'ch plentyn am yr hyn a drafodwyd. Chi sy'n eu nabod nhw orau. Os nad yw'r amser yn iawn i wneud hynny'n syth codwch y pwnc rywbryd eto.

Dysgwch oes angen unrhyw help arnyn nhw wrtho chi er mwyn cymryd eu cam nesaf.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.