Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2023

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2023, roedd 1,107 o'r rhai sy’n gadael yr ysgol o Flwyddyn 11, 12 ac 13 y gwyddys eu bod yn NEET yng Nghymru, sef 2.0% o gyfanswm y garfan
  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, parhaodd carfan Blwyddyn 13 i fod â chanran uwch o NEET (3.6% - 375 o unigolion) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (2.0% - 670 o unigolion) a Blwyddyn 12 (0.5% - 62 o unigolion)
  • Canran y cwsmeriaid Blwyddyn 11 oedd yn methu â mynd i mewn i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, gofalu am eraill neu feichiogrwydd oedd 1.3%. Yn yr un categori, roedd canran cwsmeriaid Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 2.2% yn y drefn honno
  • Roedd canran y merched NEET Blwyddyn 11 nad ydynt yn gallu mynd i mewn i addysg cyflogaeth nac hyfforddiant eleni yn uwch nag ar gyfer bechgyn NEET (71.0% o ferched NEET a 60.5% o fechgyn NEET)

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Mae parhau mewn addysg amser llawn yn parhau i fod y dewis mwyaf poblogaidd o blith hynt disgyblion ym mhob un o'r tri grŵp blynyddoedd
  • Dewisodd canran uwch o ferched na bechgyn ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn
Tabl yn dangos data carfan, bechgyn, merched a’r gwahaniaeth
CarfanBechgynMerchedGwahaniaeth
Blwyddyn 1184.6%89.0%4.4 pwynt canran
Blwyddyn 1292.9%94.2%1.3 pwynt canran
Blwyddyn 1370.4%79.6%9.2 pwynt canran

Roedd cyfran uwch o'r rhai sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 wedi dewis Addysg Bellach dros chweched dosbarth ysgolion, o 21.6 pwynt canran.

  • Chweched Dosbarth 39.2%
  • Coleg AB 60.8%

Yn 2023, o’r rhai a ddosbarthwyd fel rhai sy’n parhau mewn Addysg llawn Amser, roedd mynd i addysg bellach (AB) yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn ac i ferched fel ei gilydd. Roedd y gwahaniaeth yn fwy ar gyfer bechgyn (62.4% yn mynd i AB, o gymharu â 37.6% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (59.2% yn mynd i AB, o gymharu â 40.8% yn aros yn yr ysgol).

Ym Mlwyddyn 11, Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, roedd canran uwch o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau mewn addysg llawn amser o gymharu â'r rhai sy’n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 1186.2%92.6%
Blwyddyn 1293.3%95.5%
Blwyddyn 1374.2%83.8%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i mewn i hyfforddiant a gwaith a gefnogir gan y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ar gyfer y rheini ym Mlwyddyn 11 ar 5.8% (1,930 o unigolion). Aeth 1.5% (171 o unigolion) o garfan Blwyddyn 12 a 3.6% (375 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 i mewn i un o’r opsiynau hyn
  • Canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i gyflogaeth oedd 3.2% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.5% ar gyfer Blwyddyn 12 a 13.0% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd mynd i mewn i’r farchnad lafur (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymhlith y bechgyn na'r merched ar draws pob un o’r tair carfan yn 2023
Tabl yn dangos canran y bechgyn a merched yn ôl grŵp blwyddyn sy'n dewis ymuno â'r farchnad lafur
CarfanBechgynMerched
Blwyddyn 1110.7%7.3%
Blwyddyn 124.5%3.6%
Blwyddyn 1319.9%13.6%

Aeth canran llawer llai o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol i mewn i'r farchnad lafur (cyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith) na'r rhai sy’n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 119.6%3.6%
Blwyddyn 124.3%2.1%
Blwyddyn 1317.6%8.4%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y 'Dim Ymateb' cyffredinol yn 1.7%. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd 'Dim Ymateb' ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 3.9% (408 o unigolion).

Tabl yn dangos data cyfradd dim ymateb
Blwyddyn 111.2%
Blwyddyn 121.3%
Blwyddyn 133.9%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn