Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau

Byddwch yn fwy tebygol o gael swydd os byddwch chi’n disgrifio'ch sgiliau a'ch cryfderau’n glir ar eich CV, yn eich ceisiadau ac mewn cyfweliadau. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw’ch sgiliau a'ch cryfderau.

Ffyrdd o ddod o hyd i’ch sgiliau a'ch cryfderau

1. Archwilio’r sgiliau a’r cryfderau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt

Mae rhai sgiliau a chryfderau yn angenrheidiol i’r rhan fwyaf o gyflogwyr, ac mae rhai yn benodol i'r swydd. Dewch o hyd i’r sgiliau a'r cryfderau sydd eu hangen ar gyflogwyr a nodwch yr hyn i chi eisoes yn dda am wneud.

Cymerwch amser i feddwl am ffyrdd o wella’ch sgiliau a'ch cryfderau. Bydd cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiadau a gweithgareddau sy'n gwella’ch sgiliau a'ch cryfderau.

Edrych ar Dyfodol gwaith yng Nghymru i wybod am rai o'r sgiliau a'r rhinweddau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a sut mae'r byd gwaith yn newid.


2. Gofynnwch i eraill beth mae nhw'n meddwl rydych chi'n gwneud yn dda

Siaradwch â phobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw gan ofyn iddyn nhw beth mae nhw'n meddwl rydych chi'n gwneud yn dda. Yr hyn rydych chi'n ei wneud yn dda yw eich sgiliau a'ch cryfderau. Nodwch y rhain.

Enghreifftiau:

  • Efallai y bydd un o'ch ffrindiau yn dweud wrthych eu bod nhw’n meddwl eich bod yn dda am wrando. Mae bod yn dda am wrando yn sgil
  • Mae perthynas yn dweud wrthych eu bod nhw’n credu eich bod yn dda iawn am gynllunio a threfnu digwyddiadau teuluol, gan gynnwys diwrnodau allan i'r teulu. Mae cynllunio a threfnu yn sgiliau

3. Gofynnwch i chi'ch hun beth yw eich diddordebau a beth rydych chi'n hoffi gwneud

Nodwch pa weithgareddau neu dasgau rydych chi'n mwynhau gwneud. Mae'n debygol eich bod yn eu mwynhau am eich bod yn eu gwneud yn dda. Y rhestr o'r hyn rydych chi'n mwynhau gwneud yw rhai o'ch sgiliau a'ch cryfderau.

Enghreifftiau:

  • Efallai bod trwsio beiciau modur yn un o’ch hobïau. Gallwch weld beth yw'r broblem, ac mae gennych y sgiliau i drwsio'r beic modur. Rydych chi hefyd yn dod o hyd i'r rhannau am y gwerth gorau ar-lein. Mae datrys problemau, sgiliau mecanyddol ymarferol a thechnegol, sgiliau TG i chwilio am rannau ar-lein, a chyllidebu i gyd yn sgiliau
  • Efallai y byddwch yn mwynhau helpu eich cymydog oedrannus a threulio amser gyda nhw. Rydych chi'n mwynhau gwrando ar eu straeon, ac rydych chi'n siopa ac yn helpu gyda’r garddio. Mae gofalu am eraill, bod yn gymorth i eraill mewn cyfnod o angen, a rhoi cymorth ymarferol yn sgiliau

4. Meddyliwch am ddiwrnod arferol a'r holl weithgareddau rydych chi'n eu gwneud yn ystod y dydd

Rhestrwch yr holl gamau rydych chi'n eu cymryd. Gallai hyn gynnwys gartref, yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y coleg, ar brofiad gwaith neu wirfoddoli, hobïau, diddordebau neu helpu eraill mewn rhyw ffordd. Rydych newydd restru'r pethau y gallwch eu gwneud – mae'r rhain hefyd yn debygol o gynnwys eich sgiliau a'ch cryfderau.

Enghreifftiau

  • Yn y gwaith, efallai y byddwch yn gweithio gyda chwsmeriaid mewn siop, yn eu cyfarch, yn eu helpu i ddod o hyd i eitemau, ac yn ymdrin â chwynion. Mae rhoi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, bod yn ddefnyddiol, yn amyneddgar, yn gyfeillgar, a chadw'n ddigynnwrf pan mae gwrthdaro yn sgiliau ac yn gryfderau
  • Efallai eich bod yn rhan o dîm chwaraeon. Rydych chi'n hyfforddi i gadw'n heini, mynychu ymarferion, ufuddhau i gyfarwyddiadau’r capten a hyfforddwr y tîm, ac yn gweithio fel rhan o dîm ar y cae. Mae hunan-gymhelliant (i gadw'n heini a mynychu ymarferion), dilyn cyfarwyddiadau, a gweithio fel rhan o dîm yn sgiliau ac yn gryfderau

5. Rhowch gynnig ar y Gwis Paru Gyrfa

Gall y Cwis Paru Gyrfa eich helpu i adnabod eich sgiliau a'ch cryfderau mewn 2 ffordd:

  • Dysgwch pa yrfaoedd a allai fod yn addas i chi, yn seiliedig ar eich sgiliau a'ch diddordebau. Cliciwch ar yrfaoedd sydd o ddiddordeb i chi er mwyn dod o hyd i'r sgiliau a'r cryfderau sydd eu hangen ar gyfer y swydd honno
  • Ar ôl i chi gwblhau’r Cwis Paru Gyrfa, gallwch weld y sgiliau sy’n addas. Yna gallwch raddio eich sgiliau i weld y sgiliau rydych eisoes chi'n yn eu gwneud yn dda, a'r rhai y gall fod angen eu gwella

6. Meddyliwch am yr hyn sy'n eich ysgogi

Os ydych chi'n cael eich cymell i wneud tasgau penodol, yna mae hyn yn gliw y gallai'r rhain gynnwys eich sgiliau a'ch cryfderau.

Enghreifftiau:

  • Gallai gwneud prosiectau DIY o amgylch y tŷ fod yn rhywbeth sy'n eich ysgogi. Mae tasgau ymarferol a gweithio gyda'ch dwylo yn debygol o fod yn un o’ch cryfderau chi
  • Gallai gwirfoddoli fel gyrrwr i elusen leol fod yn rhywbeth sydd wir yn eich ysgogi os ydych chi'n mwynhau gyrru a helpu pobl mewn angen. Mae gyrru'n ddiogel, canolbwyntio'n dda ar y ffyrdd, llywio da, a chefnogi pobl mewn angen yn sgiliau ac yn gryfderau

7. Gofynnwch i ni am gefnogaeth a help

Yn Gyrfa Cymru, gallwn eich helpu i nodi eich sgiliau a'ch cryfderau. Gallwn hefyd eich helpu i ddod o hyd i leoedd lle gallwch dyfu a datblygu cryfderau a sgiliau newydd. Cysylltwch â ni.


Ble i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch cryfderau wrth chwilio am swyddi

Bydd angen i chi allu disgrifio eich sgiliau a'ch cryfderau i gyflogwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Mewn CV

Rydych chi'n nodi eich sgiliau a'ch cryfderau ym mhroffil CV:

Mewn ffurflen gais am swydd 

Rydych chi'n darparu enghreifftiau bywyd go iawn o'ch cryfderau a'ch sgiliau mewn datganiadau personol a chwestiynau cymhwysedd:

Mewn cyfweliad

Mewn cyfweliad efallai y gofynnir yn uniongyrchol i chi ‘Beth yw eich cryfderau?’. Weithiau bydd angen i chi ddisgrifio eich cryfderau a’ch sgiliau gan ateb cwestiynau fel ‘Dywedwch wrthyf amdanoch chi’ch hun’:

  • Cael help i ddatblygu technegau cyfweld llwyddiannus gan gynnwys disgrifio'ch cryfderau 
  • Mae cwestiynau cymhwysedd yn gwestiynau sy'n gofyn i chi roi enghreifftiau bywyd go iawn i brofi bod gennych y sgiliau a'r cryfderau sydd eu hangen. Yn aml, gofynnir amdanynt yn y cais a’r cyfweliad.

Mwy am sgiliau a chryfderau

Cymerwch gwisiau i ddarganfod eich sgiliau, math o bersonoliaeth a pharu swyddi