Ydych chi wedi dechrau'r coleg neu'r chweched dosbarth yn ddiweddar ond nawr yn meddwl tybed a ydych chi wedi gwneud y penderfyniad cywir? Y peth pwysig yw gofio yw i beidio â rhuthro i wneud penderfyniad y gallech ei ddifaru nes ymlaen.
Cymerwch eich amser i....
- Ddeall pam eich bod yn cael amheuon. Ai amgylchedd y coleg / ysgol ydyw neu'r cwrs?
- Feddwl sut mae hyn yn gwneud ichi deimlo. Ydych chi'n anhapus neu wedi diflasu ar y cwrs yn unig?
- Ystyried yr effaith o adael cwrs. A fyddai gadael y cwrs yn effeithio ar eich nod gyrfa?
Edrychwch ar y gefnogaeth sydd ar gael

Edrychwch ar y rhesymau mwyaf cyffredin sydd gan bobl dros deimlo'n ansicr am eu cwrs, a chewch gyngor ar beth i'w wneud.

Cewch gymorth a chyngor i ymgymryd â dechrau cwrs newydd, gan ddelio â nerfau a phwysau, cyllid, a chynllunio eich amser.

Edrychwch ar ein 3 prif awgrym i gefnogi eich plentyn os ydynt yn ystyried gadael y coleg.
Aros. Paid rhoi'r Gorau Iddi fideo Cynghorydd Gyrfa
Gwyliwch y fideo i gael cyngor a chefnogaeth gan ein Cynghorwr Gyrfa.
Gweld dogfen trawsgrifiad a chapsiynau. (PDF, 78KB, bydd y ffeil yn agor mewn ffenestr newydd)
Os ydych yn dal yn ansicr ac eisiau siarad â ni, cysylltwch â ni i gael mwy o help a chymorth
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Edrychwch ar y 7 prif awgrym yn cynnwys profiad gwaith, gwaith rhan amser, gwirfoddoli a mwy...

Dewch i wybod beth mae cyn fyfyriwr yn ei ddweud y byddai hi wedi'i wneud yn wahanol, fel eich bod chi'n gwneud y mwyaf o'ch amser yn y coleg neu'r 6ed dosbarth.

Archwilio rhai o'r swyddi sy'n gysylltiedig â phynciau gwahanol

Gwybod mwy am yr hyn mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr a chael syniadau ar sut i gael y sgiliau hyn. Bydd y ddolen yma yn eich tywys i safle allanol.
Bydd yr hyfforddiant rhyngweithiol, ar-lein hwn, sy’n rhad ac am ddim, yn eich helpu i feithrin y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i ddewis yr yrfa gywir, dod o hyd i swydd a llwyddo yn y gweithle.
Defnyddiwch y cod gan Gyrfa Cymru i ddechrau arni.