Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Meddwl am adael cwrs? Tri chwestiwn allweddol i'w gofyn

Mae'n naturiol cael amheuon am dy gwrs. Cyn gwneud penderfyniad, cymer dy amser i ddeall beth sy'n dy wneud yn anhapus ac i ystyried dy opsiynau.

Gofyn y 3 cwestiwn hyn i dy hun:

1. Pam ydw i'n meddwl am adael?

Meddylia am beth sy'n gwneud i ti fod eisiau gadael. Efallai dy fod:

  • Wedi newid dy gynlluniau gyrfa
  • Yn gweld y cwrs yn rhy hawdd neu'n rhy anodd
  • Dim yn mwynhau'r cwrs
  • Yn ei chael hi'n anodd setlo
  • Yn poeni am arian
  • Ag amgylchiadau personol sy'n effeithio ar dy astudiaethau

Unwaith y byddi di'n deall beth yw'r broblem, gall fod yn haws penderfynu beth allai helpu.

2. Beth yw fy opsiynau?

Nid gadael yw dy unig opsiwn. Yn dibynnu ar y sefyllfa, efallai y gallet ti:

  • Gael cymorth ychwanegol, fel cymorth gyda dy les neu gyllid
  • Newid cwrs neu lefel
  • Newid y pynciau neu'r modiwlau rwyt ti'n eu hastudio
  • Ystyried cwrs gwahanol neu le arall i astudio
  • Ystyried prentisiaeth, hyfforddiant neu waith

Ymchwilia i dy opsiynau a meddwl am sut y gallai pob dewis effeithio ar dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol.

3. Pwy all fy helpu?

Does dim rhaid i ti wneud y penderfyniad ar dy ben dy hun. Siarad â:

  • Dy athro, tiwtor neu ddarlithydd am sut rwyt ti'n teimlo a pha gymorth sydd ar gael. Efallai y gall gwasanaethau myfyrwyr neu gymorth bugeiliol helpu hefyd
  • Gyrfa Cymru. Gallwn dy helpu i ystyried dy opsiynau gyrfa a dysgu a chynllunio dy gamau nesaf. Cysyllta â ni drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy sgwrs ar-lein

Mae sefydliadau eraill a all helpu hefyd, fel:

  • Meic – llinell gymorth sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
  • Y Samariaid – yn cynnig cymorth emosiynol i unrhyw un sy'n profi trallod emosiynol

Archwilio

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.

Cefnogaeth i rieni