Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Cefnogi eich plentyn yn y coleg neu’r chweched dosbarth

Mae dechrau yn y coleg neu'r chweched dosbarth yn gam cyffrous, ond gall hefyd deimlo'n heriol i chi ac i'ch plentyn. Gallwch helpu eich plentyn i ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd a mwy o annibyniaeth.

Fel rhiant neu ofalwr, gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Annog a chefnogi

Mae'r coleg a'r chweched dosbarth yn aml yn wahanol iawn i'r ysgol. Efallai y bydd eich plentyn yn teithio i le newydd, yn dilyn amserlen wahanol bob dydd, yn rheoli gwaith cwrs a therfynau amser yn annibynnol ac yn gwneud ffrindiau newydd.

Gallwch helpu drwy:

  • Holi'n rheolaidd sut mae pethau'n mynd a gwrando ar unrhyw bryderon sydd ganddynt
  • Helpu nhw i drefnu eu hamser a chadw golwg ar derfynau amser pwysig
  • Cefnogi nhw i gymryd rhan mewn clybiau, gwirfoddoli neu weithgareddau cyfoethogi
  • Atgoffa nhw y gall gymryd amser i ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd

Mae'n arferol i ddysgwyr fod angen ychydig wythnosau, neu hyd yn oed yn hirach, i deimlo'n hyderus ac yn gyfforddus.

Os nad yw eich plentyn yn siŵr a yw wedi gwneud y dewis cywir, anogwch nhw i ofyn am gyngor cyn gynted â phosibl drwy:

Eu helpu i gael profiadau gwaith gwerthfawr

Mae llawer o gyrsiau'n annog neu'n ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr gael profiad gwaith. Gall hyd yn oed leoliad byr roi profiad defnyddiol a dealltwriaeth o fyd gwaith. Gall helpu eich plentyn i ddatblygu sgiliau yn y gweithle, magu hyder, archwilio diddordebau gyrfa a chryfhau ceisiadau am le mewn prifysgol, prentisiaeth neu swydd.

Gallwch eu cefnogi drwy:

  • Eu hannog i siarad â thiwtoriaid am gyfleoedd
  • Eu helpu i ddod o hyd i gyflogwyr lleol
  • Awgrymu eu bod yn siarad â theulu, ffrindiau neu gysylltiadau yn y gymuned
  • Eu cefnogi i greu CV a llythyr cais er mwyn holi am brofiad gwaith

Rhannwch eich profiadau

Fel rhiant neu ofalwr, gallwch fod yn un o'r dylanwadau mwyaf ar benderfyniadau a hyder eich plentyn. Gall siarad am eich profiadau eich hun eu helpu i ddeall bod heriau'n rhan arferol o ddysgu a gweithio.

Gallech drafod:

  • Ymgyfarwyddo ag amgylcheddau newydd
  • Gweithio gyda gwahanol fathau o bobl
  • Rheoli cyfrifoldebau a chadw at derfynau amser
  • Goresgyn anawsterau
  • Magu hyder drwy brofiadau newydd

Annogaeth i archwilio eu dyfodol

Gall bod â nod i weithio tuag ato helpu dysgwyr i gadw eu cymhelliant. Anogwch eich plentyn i feddwl am yr hyn maen nhw am ei wneud. Gallai hyn gynnwys: 

Defnyddiwch ein hamrywiaeth o adnoddau i'w helpu i archwilio cyfleoedd a syniadau am yrfaoedd:

Cefnogwch eu lles

Gall dechrau mewn lle newydd deimlo'n llethol ar adegau. Gall ychydig o sicrwydd wneud gwahaniaeth mawr. Atgoffwch eich plentyn ei bod yn arferol i deimlo'n nerfus am newid a bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn wynebu heriau wrth ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd, ond bydd eu hyder yn cynyddu a gallant ofyn am help.

Os ydynt yn cael trafferth, mae cymorth ar gael drwy:

  • Wasanaethau cymorth i fyfyrwyr sy'n cynnig cymorth gyda lles, cwnsela, dysgu, arian neu faterion ymarferol
  • Gyrfa Cymru sy'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad gyrfaoedd diduedd i'w helpu i archwilio eu hopsiynau a'u camau nesaf – cysylltwch â ni
  • Meic sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth am ddim ac yn gyfrinachol i blant a phobl ifanc 25 oed ac iau yng Nghymru
  • Mind sy'n darparu gwybodaeth a chymorth iechyd meddwl, gan gynnwys help i ddod o hyd i wasanaethau lleol

Yma i'ch helpu

Gall Gyrfa Cymru helpu eich plentyn i archwilio ei opsiynau, deall ei gamau nesaf a gwneud penderfyniadau gwybodus am ei yrfa.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Rhieni

Sicrhewch fod gwybodaeth, adnoddau ac awgrymiadau gyda chi i helpu'ch plentyn i wneud penderfyniadau gyrfa a dysgu mwy am y gefnogaeth a gynigir gennym wrth i'ch plentyn fynd o addysg i gyflogaeth.

Cael gwybodaeth am gymwysterau

Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.