Ydych chi’n mynd i’r brifysgol neu’r coleg yn 2025/26?
Os felly, mae'n bryd meddwl am wneud cais am gyllid myfyrwyr.
Pan fyddwch chi’n astudio, bydd dwy brif gost gennych chi, ffioedd dysgu a chostau byw. Gallwch chi wneud cais am amrywiaeth o gyllid myfyrwyr i’ch helpu chi gyda’r ddwy gost.
Pryd i wneud cais
Myfyrwyr israddedig amser llawn
Mae ceisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025 i 2026 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau. Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wneud cais.
Myfyrwyr ôl-raddedig
Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor o ddiwedd mis Ebrill 2025.
Myfyrwyr rhan-amser
Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor o ganol mis Mai 2025.
Dysgwch fwy ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dechrau arni

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.

Gwybodaeth ac arweiniad ar gyllid sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.