Bydd Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2023 yn cael ei chynnal rhwng 13 ac 19 Tachwedd. Dyma ymgyrch i ddathlu a grymuso entrepreneuriaid o amgylch y byd.
Dyma gyfle i dynnu sylw pobl at lwybr entrepreneuriaeth a’u helpu i ddechrau ar y daith.
Ydych chi’n ystyried dechrau eich busnes eich hun?
Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth a dolenni defnyddiol ar ein tudalen hunangyflogaeth.
Adnoddau i ysgolion
Lleoliadau cynradd
Rydym yn lansio her y Criw Mentrus i ysgolion cynradd ar gyfer 2023-24.
Nod yr her yw meithrin agweddau entrepreneuraidd y dysgwyr. Mae’r her ar agor i holl ysgolion cynradd Cymru.
Rydym yn cynnig cyfres o Weithdai Dysgu Proffesiynol rhanbarthol a gynhelir wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd y rhain yn cael eu cynnal drwy gydol tymor yr Hydref a thymor y Gwanwyn. Byddant yn cynnig gwybodaeth am yr her. Hefyd, bydd y gweithdai’n helpu i ymwreiddio sgiliau menter yn y cwricwlwm.
Lleoliadau uwchradd
Gall ysgolion uwchradd gysylltu â ni drwy gydol y flwyddyn i drefnu gweithdai model rôl Syniadau Mawr Cymru i ddysgwyr. Mae gweithdai yn ffordd wych o gyflwyno dysgwyr i unigolion ysbrydoledig ac i’r syniad sydd wrth wraidd entrepreneuriaeth.
Gwybod mwy
Dewch i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi a lle i gael rhagor o gefnogaeth.
Rhagor o wybodaeth am her y Criw Mentrus.
Dysgwch am weithdai model rôl i helpu eich dysgwyr i ddeall entrepreneuriaeth a menter.