Mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i'ch helpu i wneud penderfyniad, ond does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun, mae yna bobl i'ch helpu chi.
Beth yw feddwl amdano wrth wneud penderfyniad
Wrth wneud penderfyniad am eich dyfodol bydd rhaid i chi hefyd feddwl am bethau eraill fel
Trafnidiaeth
Pa bynnag opsiwn y byddwch yn ei ddewis ar ôl gadael yr ysgol, byddwch angen meddwl am sut rydych chi'n mynd i gyrraedd yno.
Allwch chi ddal bws neu drên? Os nad ydych wedi gwneud hyn o'r blaen efallai y bydd angen rhywfaint o help arnoch. Mae angen i chi hefyd feddwl sut y byddwch chi'n cyrraedd yr stesion bysiau neu'r orsaf drên.
Arian
Pan fyddwch yn gwneud penderfyniad am eich dyfodol efallai bydd rhaid i chi feddwl am arian:
- A fyddwch yn cael eich talu?
- A fyddwch chi'n gallu cael unrhyw fudd-daliadau (arian) ?
- A fyddwch chi'n gallu cadw unrhyw fudd-daliadau (arian) rydych yn ei gael nawr?
- Faint o arian sydd rhaid i chi ei ennill?
Cael cymorth i wneud penderfyniad
Gallwch hefyd ddechrau gwneud pethau nawr i'ch helpu chi i wneud penderfyniad.
Ewch:
- I ddiwrnod agored yn y coleg eich hun neu gyda'ch ysgol i weld sut le yw coleg
- Ar brofiad gwaith i roi cynnig ar fath o swydd
Siaradwch gyda:
- Y bobl sy'n eich adnabod yn dda fel eich teulu a ffrindiau
- Y bobl sy'n gallu eich helpu fel Cynghorydd Gyrfa neu Weithiwr Cymdeithasol
Edrychwch ar:
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod beth mae gwneud penderfyniad yn ei olygu a sut rydych yn gwneud penderfyniadau yn barod yn eich bywyd.

Dewch i wybod beth ddylech chi feddwl amdano i'ch helpu chi i wneud penderfyniadau am eich dyfodol.

Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.