Mae gwneud penderfyniad yn golygu eich bod chi'n gwneud dewis am rywbeth. Rydych chi'n dewis gwneud un peth dros beth arall.
Rhai o'r penderfyniadau efallai y byddwch yn ei wneud bob dydd.
Heddiw efallai eich bod wedi penderfynu beth:

I'w gael i frecwast

I'w wisgo
Erbyn diwedd heddiw efallai eich bod wedi penderfynu:

Faint o'r gloch i fwyta amser tê

Faint o'r gloch i fynd i'r gwely
Rydych wedi gwneud y penderfyniadau hyn drwy feddwl am beth:

Sy'n eich gwneud yn hapus

Rydych chi'n ei fwynhau

Rydych wedi ei fwynhau o'r blaen
Pa benderfyniadau sydd angen i mi eu gwneud am fy nyfodol?
Wrth i chi fynd yn hŷn efallai y bydd rhaid i chi wneud penderfyniadau am:
- Beth rydych chi am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol - mynd i'r coleg, dechrau gweithio, bod yn hyfforddai, gwirfoddoli, cael cynllun diwrnod neu fod yn brentis
- Beth rydych chi am ei wneud fel swydd
- Lle rydych chi eisiau byw
- Sut rydych chi am dreulio'ch amser hamdden
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod sut i ddechrau gwneud penderfyniad am eich opsiwn nesaf ar ôl gadael yr ysgol.

Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.