Mae yna lawer o asiantaethau sy’n cefnogi pobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a’u teuluoedd.
Mae rhai o’r sefydliadau mwy wedi’u rhestru isod. Siaradwch gyda’ch Cynghorydd Gyrfa i ganfod pa sefydliadau lleol eraill a allai ddarparu cymorth.
Cymorth i bobl ifanc ag ADY sy'n chwilio am waith
Agoriad Cyf. Darparwr recriwtio a hyfforddiant arbenigol yw Agoriad Cyf. Mae’n helpu pobl i gael mwy o annibyniaeth a gwireddu eu potensial yn y gweithle.
Elite (dolen Saesneg yn unig). Elusen sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau neu’r rhai o dan anfantais ar draws De a De-orllewin Cymru yw Elite. Mae Elite yn cefnogi pobl gyda chyfleodd galwedigaethol, hyfforddiant a chyflogaeth drwy annibyniaeth.
The Engage to Change. Mae’r prosiect Engage to Change yn cael ei gynnal yn awr ar draws Cymru gyfan ac mae’n cynorthwyo pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i gael lleoliadau gwaith â thâl sy’n para 6-12 mis.
Remploy. Fel darparwr gwasanaethau cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru, cenhadaeth Remploy yw helpu a chefnogi pobl anabl i gael gwaith, a gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gallu recriwtio, cadw a chynnal unigolion.
Shaw Trust. Mae Shaw Trust yn cefnogi pobl anabl a phobl o dan anfantais i gael gwaith drwy Dewis Gwaith neu’r Rhaglen Waith. Mae’r cymorth yn cynnwys help i baratoi ar gyfer gwaith, help gyda chyflogaeth a rheoli anabledd.
Access to Work. Rhaglen cymorth cyflogaeth sydd wedi’i ariannu’n gyhoeddus yw Mynediad at Waith. Ei nod yw ceisio helpu pobl anabl i gael swydd neu i aros mewn gwaith. Mae’n gallu darparu cymorth ymarferol ac ariannol i bobl ag anabledd neu gyflyrau corfforol neu iechyd meddwl hirdymor.
Cymorth ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau
Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.
Mae Action on Hearing Loss Cymru yn darparu cymorth i bobl sy’n fyddar, pobl â nam ar eu clyw a thinitws. Maent yn darparu cyngor, gofal a gwasanaethau cymorth, gwasanaethau cyfathrebu a hyfforddiant.
The National Deaf Children’s society. Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn rhoi cymorth arbenigol ar fyddardod i blant, mae’n codi ymwybyddiaeth ac yn ymgyrchu dros hawliau plant byddar, er mwyn iddynt allu cael yr un cyfleoedd â phawb arall.
The Royal National Institute of Blind People (RNIB). Mae RNIB Cymru yn darparu gwasanaethau a chymorth i bobl ddall a phobl rhannol ddall ar hyd a lled Cymru. Mae hefyd yn ymgyrchu dros welliannau i wasanaethau er mwyn helpu i atal pobl rhag colli eu golwg yn ddiangen.
Cefnogi pobl ar y Sbectrwm Awtistig/pobl ag anawsterau dysgu penodol
Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.
Elusen yw National Autistic Society Cymru sy’n gweithio ar draws Cymru gyfan i ddarparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau ac ymgyrchu dros fyd gwell i bobl ag awtistiaeth (gan gynnwys syndrom Asperger), eu teuluoedd a’u gofalwyr yw Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru.
Mae ASD info Wales yn codi ymwybyddiaeth o Awtistiaeth drwy ddatblygu polisi, darparu gwybodaeth, gwasanaeth cymorth a chyngor a hyfforddi gweithwyr proffesiynol.
Mae'r British Dyslexia Association yn cynnig cyngor a chymorth i unigolion, sefydliadau’r trydydd sector, cyrff cyhoeddus a busnesau preifat.
Cymorth i bobl ag anableddau
Mae rhai o'r dolenni isod yn Saesneg yn unig.
Mae SNAP Cymru yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn cael eu nodi a bod darpariaeth ar gael i’w helpu i gyflawni eu potensial.
Mae Scope Cymru yn cynnig gwybodaeth gyfrinachol, cyngor a chymorth i bobl anabl, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru ar faterion amrywiol. I gael gwybodaeth am anabledd ffoniwch 0808 800 3333.
Contact a Family Cymru. Elusen sy’n gweithio ar draws Cymru yw Contact a Family Cymru ac mae’n cefnogi teuluoedd plant ag anableddau neu anghenion ychwanegol, waeth beth yw eu cyflwr neu anabledd. Mae Contact a Family Cymru yn Llinell gymorth rhadffôn: 0808 808 3555.
Learning Disability Wales. Elusen genedlaethol sy’n cynrychioli’r sector anableddau dysgu yng Nghymru yw Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru. Mae’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, y llywodraeth a’r sector gwirfoddol i greu Cymru well i bobl ag anabledd dysgu.
Mae Plant yng Nghymru yn darparu gwasanaethau i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Maent yn ceisio gwella bywydau pob un ohonynt, ond yn arbennig y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ansefydlogrwydd teuluol, tlodi ac amddifadedd neu sydd ag anghenion arbennig/anableddau.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Dewch i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan Gyrfa Cymru i'ch helpu chi a'ch plentyn i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dewch i wybod am y pethau y dylech feddwl amdanynt er mwyn helpu eich plentyn i gynllunio tuag at y dyfodol.

Dewch i wybod am yr opsiynau sydd ar gael i'ch plentyn pan fyddent yn gadael yr ysgol.

Dewch i wybod mwy am gyfarfodydd cynllun trosglwyddo a sut y gallwch chi baratoi orau amdanynt.