Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Helpu eich plentyn i gynllunio eu dyfodol

Byddwch yn ddylanwad mawr ar ddewisiadau eich plentyn ar gyfer y dyfodol.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwch ei helpu

  • Trafod ei syniadau am yrfa yn y dyfodol a’i annog i feddwl am yr holl opsiynau sydd ar gael
  • Ei annog i ddatblygu ei sgiliau drwy addysg, hobïau, diddordebau, profiad gwaith a swyddi rhan amser
  • Ei annog i wneud defnydd llawn o’r help sydd ar gael yn yr ysgol, yn y coleg a gan Gyrfa Cymru
  • Gwneud yn siŵr bod eich gwybodaeth yn gyfredol. Defnyddiwch Swyddi Dyfodol Cymru i gael gwybodaeth am y farchnad swyddi, y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt a thueddiadau cyflogaeth
  • Ei annog i ddefnyddio adran Fy Nyfodol y wefan i’w helpu i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ei hun
  • Ei annog i archwilio fideos sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd ac opsiynau ar sianel Fy Nyfodol YouTube
  • Paratoi ar gyfer cyfarfodydd cynllun trosglwyddo a mynd i’r cyfweliadau hynny
  • Ei gefnogi i ymweld â cholegau neu ddarpariaeth arall a allai fod yn opsiynau ar ôl i’ch plentyn adael yr ysgol. Bydd gadael i’ch plentyn weld gwahanol leoedd yn ei helpu i wneud penderfyniad
  • Siaradwch gyda’r cynghorydd gyrfa os hoffech gael mwy o wybodaeth
  • Ewch i ddigwyddiadau Gyrfa Cymru neu ddigwyddiadau pontio sy’n cael eu cynnal yn yr ysgol

Os ydych chi dal yn ansicr ac os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni am ragor o help a chymorth.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cynllun Trosglwyddo

Dewch i wybod mwy am gyfarfodydd cynllun trosglwyddo a sut y gallwch chi baratoi orau amdanynt.