Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru 2018

Bydd y dudalen hon yn eich diweddaru ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru 2018 

Beth yw testun y Ddeddf?

Cafodd y Ddeddf ei chyflwyno er mwyn:

  • Gwneud darpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
  • Creu proses gydweithredol, integredig o asesu, cynllunio a monitro sy’n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol
  • Creu system deg ac agored er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor, ac er mwyn datrys pryderon ac apeliadau

Mae mwy o wybodaeth am y Ddeddf ar gael ar llyw.cymru.


Pryd bydd y Ddeddf yn cael ei gweithredu?

Cafodd y Ddeddf ei hoedi am flwyddyn ond bydd yn dechrau cael ei gweithredu nawr o fis Medi 2021. Bydd y cyfnod gweithredu yn para 3 blynedd.  Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ar gyflwyno’r Ddeddf i bobl ifanc o oedran ysgol gorfodol.  Mae hyn yn datgan pryd y bydd pobl ifanc hyd at 16 oed yn symud i’r system newydd. Cewch wybod mwy am y System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni ar llyw.cymru.

Mae cynlluniau ar y gweill i gynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer pobl ifanc 16+ oed sydd mewn addysg. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf ar gael ar llyw.cymru.


Sut fydd hyn yn effeithio ar fy mhlentyn?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen ffeithiau ar y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) i esbonio sut y bydd y ddeddf yn effeithio ar bobl ifanc ag ADY.


Efallai i chi hefyd hoffi

Cynllun Trosglwyddo

Dewch i wybod mwy am gyfarfodydd cynllun trosglwyddo a sut y gallwch chi baratoi orau amdanynt.