Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Opsiynau eich plentyn ar ôl gadael yr ysgol

Mae gwahanol opsiynau ar gael i'ch plentyn i'w ystyried pan fyddent yn gadael yr ysgol.

Opsiynau sydd ar gael i'ch plentyn.

Gwaith

Os bydd pobl ifanc yn awyddus i ddechrau gweithio cyn gynted ag y byddant yn gadael yr ysgol, gallent wneud hynny mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Cyflogaeth â chefnogaeth

Mae nifer o asiantaethau cyflogaeth â chefnogaeth ar hyd a lled Cymru. Maen nhw’n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i ddod o hyd i waith a’i gadw. Gallent gynnig cymorth gyda cheisiadau, cefnogi person ifanc i ddysgu sut i deithio i’r gwaith a bydd rhai hefyd yn cynnig hyfforddwr gwaith. Mae’r hyfforddwr gwaith yn gweithio ochr yn ochr â pherson ifanc i’w helpu i ymgyfarwyddo â’r tasgau.

ELITE - De, Canolbarth a Gorllewin Cymru (dolen Saesneg yn unig)

Agoriad - Gogledd Cymru

Cyflogaeth agored

Gallai pobl ifanc wneud cais am swyddi gwag sy’n cael eu hysbysebu ar-lein, yn y wasg neu drwy sefydliadau fel y Ganolfan Byd Gwaith neu Gyrfa Cymru. Mae staff Gyrfa Cymru  yn gallu darparu cymorth i bobl ifanc sy’n chwilio am waith. Gallai hyn gynnwys lle i chwilio am swyddi gwag, sut i gwblhau ffurflenni cais neu CV a chyngor a gwybodaeth am sgiliau cyfweliad.

Os oes gan eich plentyn anabledd, mae’n bosibl y gall wneud cais i’r cynllun Mynediad at Waith i gael cymorth neu offer.  

Coleg

Mae llawer o bobl ifanc yn mynd i’r coleg ar ôl gadael yr ysgol. Mae colegau yn cynnig ystod a lefel eang o gyrsiau academaidd a galwedigaethol. Gall colegau ddarparu cymorth ychwanegol i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, i’w helpu i gael y budd mwyaf o’u cwrs. Mae’r cymorth hwn yn seiliedig ar anghenion person ond gallai gynnwys cynorthwywyr personol, help gyda sgiliau sylfaenol megis Mathemateg a Chymraeg/Saesneg, cymorth mewn arholiadau, offer, cymerwr nodiadau, cyfathrebwyr neu ddarparu gwaith mewn Braille neu brint bras.

Mae colegau hefyd yn cynnig cyrsiau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd angen cymorth i ddatblygu eu sgiliau a’u syniadau gyrfa. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio ond yn aml mae myfyrwyr yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau bach ac mae’r rhaglenni astudio wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc. Yn gyffredinol, mae’r cyrsiau hyn yn ceisio paratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd fel oedolion drwy gynnig rhagflas galwedigaethol, cyfle i ennill cymwysterau, gwella sgiliau Mathemateg a Chymraeg/Saesneg a chyfathrebu. Mae rhai myfyrwyr yn dechrau gyda’r math hwn o gwrs ac yna maen nhw’n symud ymlaen i gwrs prif ffrwd.

Mae cyrsiau amser llawn a rhan-amser ar gael yn y coleg.  Mae cyrsiau amser llawn colegau fel arfer yn 3-4 diwrnod yr wythnos.

Os na fydd colegau lleol yn gallu cyrraedd anghenion dysgu ychwanegol eich plentyn, gallai ystyried darpariaeth coleg arbenigol.  Mae colegau arbenigol ar gael sy’n cynnig lleoliadau dydd a phreswyl ar hyd a lled Cymru a Lloegr.

Mae'r broses ar gyfer gwneud penderfyniadau am ariannu lleoliadau coleg arbenigol yn newid. O dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg newydd, yr awdurdod lleol fydd yn penderfynu a oes angen lleoliad coleg arbenigol ai peidio ar gyfer person ifanc. Mae’r Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith dros nifer o flynyddoedd ac mae’n effeithio ar y broses ymgeisio am arian yn y ffordd ganlynol:

Tabl yn dangos y Ddefdd ar waith yn ôl blwyddyn academaidd a blwyddyn gadael
Blwyddyn academaiddGadawyr blwyddyn 11Gadawyr blwyddyn 12Gadawyr blwyddyn 13Gadawyr blwyddyn 14
2023-24Penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan Lywodraeth CymruPenderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru
2024-25Penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan Lywodraeth Cymru
2025-26Penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleolPenderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol

Pan fydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru yna bydd y Cynghorydd Gyrfa yn gwneud y cais am gyllid. Ceir gwybodaeth am y broses hon ar Sicrhau addysg ôl-16 i bobl ag anawsterau dysgu: canllawiau ar gyfer Gyrfa Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Pan fydd yr awdurdod lleol yn gwneud y penderfyniad, byddent yn gallu darparu’r broses y mae’n ei dilyn i wneud penderfyniad. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau lleol i’w gweld ar Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018: canllawiau i awdurdodau lleol ar drefniadau dros dro ar gyllid ar gyfer lleoliadau arbenigol anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ôl-16 ar wefan Llywodraeth Cymru.

Twf Swyddi Cymru+/Hyfforddiant

Os oes gan berson ifanc ddiddordeb mewn gweithio ond naill ai ddim yn barod i ddechrau cyflogaeth neu angen profiad gwaith, gall ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+. Mae hyn yn cynnig cyfle i bobl ifanc ennill sgiliau sy’n seiliedig ar waith a chymwysterau mewn canolfan hyfforddi neu gyda chyflogwr lleol. Gallant hefyd gael profiad gwaith gwerthfawr ac efallai hyd yn oed swydd â thâl mewn rhai achosion.

Mae tair lefel wahanol o hyfforddiant ar gael i bobl ifanc ar Twf Swyddi Cymru+:

  • Ymgysylltu – mae’r rhaglen hon yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, gweithio ar eu Mathemateg a’u Saesneg ac adeiladu eu hyder a’u cyfathrebu. Tra ar y lefel ymgysylltu gallant hefyd gael rhagflas galwedigaethol ac o bosib cael profiad o'r gweithle gyda chyflogwr
  • Datblygu – os yw person ifanc yn barod am leoliad gwaith ac yn gwybod pa fath o waith yr hoffai ei wneud, gall ddechrau gweithio tuag at Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar Lefel 1
  • Cyflogaeth - os yw person ifanc yn barod am waith, gall gael cymorth i wneud cais am leoliad swydd â thâl ar Twf Swyddi Cymru+

Gall pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol gael cymorth i'w galluogi i gwblhau eu hyfforddiant. Gall Cynghorydd Gyrfa drafod yr anghenion hyn gyda'ch plentyn a, gyda'i caniatâd, rhannu'r rhain gyda'r darparwr. Os oes gan eich plentyn Gynllun Datblygu fe all rannu hwn gyda'r darparwr.

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn ffordd o gael profiad gwaith, cyflog ac ennill cymwysterau. Mae gwahanol lefelau o brentisiaethau ar gael, o Brentisiaeth Sylfaen lle bydd pobl yn gweithio tuag at gymhwyster lefel 2 i brentisiaethau lefel gradd.

Gwybod mwy am Brentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd ar gyfer Prentisiaethau 2018-2021.

Chwiliwch am brentisiaethau ar Chwilio am Brentisiaethau.

Gwaith Gwirfoddol

Os bydd person ifanc yn awyddus i weithio ond nad yw’n barod eto am waith â thâl, gallai wneud gwaith gwirfoddol. Mae hyn yn gallu ei helpu i ddatblygu sgiliau a hyder yn ogystal â darparu profiad gwaith defnyddiol. Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau a gweithgareddau o bob math.  Gall yr amser y bydd unigolyn yn gwirfoddoli amrywio o gyfranogiad unigol i ymrwymiad rheolaidd o amser bob wythnos.

Cewch wybod mwy am wirfoddoli ar Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) a Volunteering Matters (dolen Saesneg)
 

Darpariaeth Gwasanaethau Dydd

I rai pobl ifanc, mae’n bosibl mai gwasanaethau dydd fydd yr opsiwn mwyaf priodol. Adran gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau dydd. Mae nifer o opsiynau ar gael, yn dibynnu ar beth sydd ar gael yn yr ardal leol, ond fel arfer gallai’r rhain gynnwys:

  • Sgiliau byw o ddydd i ddydd
  • Gweithgareddau hamdden
  • Hyfforddiant galwedigaethol
  • Prosiectau cymdeithasol a gwirfoddol
  • Cysylltiadau â cholegau 
  • Profiad gwaith

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn asesu anghenion person ifanc ac yn trafod yr opsiynau sydd ar gael. Os ydych yn awyddus i ymchwilio i’r opsiwn hwn, byddai angen i chi drafod hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol neu gallwch gysylltu â’ch adran gwasanaethau cymdeithasol leol.


Os ydych chi dal yn ansicr ac os hoffech chi siarad â ni, cysylltwch â ni am ragor o help a chymorth.

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cynllun Trosglwyddo

Dewch i wybod mwy am gyfarfodydd cynllun trosglwyddo a sut y gallwch chi baratoi orau amdanynt.