Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Diwrnod eich cyfweliad

Pan fydd diwrnod eich cyfweliad wedi cyrraedd efallai y byddwch yn teimlo'n nerfus ond yn gyffrous hefyd. Mae hyn yn naturiol.

Beth ddylwn i wneud ar ddiwrnod fy nghyfweliad?

Cofiwch:

Eicon o berson yn gwisgo tei

Wisgo yn smart. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lân ac yn daclus

Eicon o gloc larwm

Osod eich larwm i wneud yn siŵr eich bod yn deffro mewn pryd

Eicon o stopwats gyda'r gwyneb wedi'i lewni

Wneud yn siŵr eich bod yn caniatáu digon o amser i gyrraedd y cyfweliad

Graffeg o feiro yn ysgrifennu ar bapur

Fynd â rhestr o'r cwestiynau rydych chi am eu gofyn i'r cyflogwr

Beth ddylwn i wneud yn y cyfweliad?

Fe ddylech chi:

Eicon o ddau person yn ysgwyd llaw

Gyflwyno’ch hunan gan edrych ar y person rydych chi'n siarad ag ef

Eicon o gadair

Drio eistedd yn llonydd a pheidiwch â symud gormod

Eicon swigen siarad gyda marc cwestiwn

Wneud yn siŵr eich bod yn gwrando'n ofalus ar y cwestiynau sy'n cael eu gofyn. Os nad ydych chi’n deall cwestiwn, gofynnwch i’r cyfwelydd egluro beth mae nhw’n meddwl

Eiconau swigen siarad gyda bodiau i fyny a dyfynodau

Ateb y cwestiynau'n glir a cymryd eich amser

Efallai y bydd y cyflogwr yn gofyn i chi ar ddiwedd y cyfweliad os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau iddyn nhw. Mae'n dda gofyn cwestiynau oherwydd mae'n dangos i'r cyflogwr eich bod yn awyddus i wybod mwy am y swydd.

Gallech ofyn:

  • Pa hyfforddiant gallen nhw gynnig i chi i'ch helpu i ennill sgiliau a chymwysterau newydd
  • Pryd fyddai'r swydd newydd yn dechrau pe byddech chi'n cael cynnig y swydd
  • Pryd byddan nhw’n rhoi gwybod i chi os i chi wedi bod yn llwyddiannus ai peidio

Gofyn am adborth

Os na chewch chi’r swydd byddai’n syniad da i chi ffonio’r cwmni a gofyn pam. Gofyn am adborth yw hyn. Bydd hyn yn eich helpu i wybod sut i wella ar gyfer eich cyfweliad nesaf.


Efallai y byddech hefyd yn hoffi