Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad

Ffordd dda o baratoi ar gyfer cyfweliad yw ymarfer ateb cwestiynau cyfweliad.

Rhowch gynnig ar ateb cwestiynau cyfweliad gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Hyd yn oed os na chewch chi’r un cwestiynau bydd hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus.

Gadewch i ni edrych ar rai cwestiynau efallai y gofynnir i chi a sut y gallech chi eu hateb.

Dywedwch wrtha i beth rydych chi'n hoffi gwneud yn eich amser hamdden

Meddyliwch am rai enghreifftiau fel:

  • Dwi'n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a fy ffrindiau gan fy mod i’n dod ymlaen yn dda gyda phobl
  • Dwi'n mwynhau nofio. Mae nofio yn fy nghadw i'n heini a dwi'n hoffi bod yn actif
  • Dwi'n mwynhau chwarae gemau cyfrifiadurol. Mae hyn wedi rhoi gwell sgiliau technoleg gwybodaeth i mi
  • Dwi'n mwynhau gwneud chwaraeon gan fy mod i’n hoffi cadw'n heini a dwi’n hoffi bod yn rhan o dîm
Dywedwch wrtha i am amser pan oeddech chi wedi gweithio fel rhan o dîm

Meddyliwch am enghreifftiau fel:

  • Roeddwn i’n rhan o dîm chwaraeon yn fy ysgol i. Helpais i osod yr offer allan
  • Dwi wedi helpu gyda rhedeg yr ardd yn yr ysgol
  • Dwi wedi gweithio gyda phobl ar brosiect ysgol/coleg
Dywedwch wrtha i sut rydych chi wedi helpu rhywun yn ddiweddar

Meddyliwch am enghreifftiau fel:

  • Dwi'n helpu fy rhieni gyda’r gwaith tŷ
  • Dwi'n helpu nain a taid i wneud eu siopa
  • Dwi'n gwarchod fy chwaer fach i helpu mam
Pa brofiad gwaith sydd gennych chi?

Meddyliwch am enghreifftiau fel:

  • Treuliais amser gyda chyflogwr ar brofiad gwaith (dywedwch fwy wrthyn nhw am hyn)
  • Dwi'n gwirfoddoli (dywedwch fwy wrthyn nhw am hyn)
  • Mae gen i brofiad o helpu aelodau'r teulu gyda gwaith o gwmpas y tŷ a'r ardd
  • Dwi hefyd wedi helpu trwsio beiciau i ffrindiau a theulu
  • Dwi'n helpu gofalu am nain a taid gan gynnwys glanhau eu tŷ nhw
Pam fyddech chi'n dda yn y swydd hon?

Meddyliwch am:

  • Beth sydd angen i chi ei wneud yn y swydd a sut gallwch chi ddangos y gallech chi wneud y math hwnnw o waith
  • Beth rydych chi'n ei wneud yn dda a sut gallwch chi ddefnyddio'r sgil hwnnw yn y swydd, er enghraifft, os yw'n swydd lle byddech chi'n gweithio gyda phobl dywedwch wrthyn nhw pa mor dda ydych chi gyda phobl a rhowch enghreifftiau

Awgrymiadau Da

Mae'n syniad da i:

  • Ofyn i'ch teulu a'ch ffrindiau eich helpu i feddwl am y pethau rydych chi wedi'u gwneud. Gall hyn eich helpu i ateb cwestiynau
  • Fod yn onest pan fyddwch chi'n ateb cwestiynau. Peidiwch â chreu enghreifftiau

Efallai y byddech hefyd yn hoffi