Gall paratoi ar gyfer eich cyfweliad eich helpu i deimlo'n fwy hyderus.
Os yw cyflogwr yn gofyn i chi ddod i gyfweliad, mae angen i chi roi gwybod iddynt eich bod yn dod. Gallwch eu ffonio neu anfon e-bost atynt.
Dyma rai ffyrdd o baratoi:
Darllenwch y disgrifiad swydd i weld pa sgiliau mae'r cyflogwr eisiau. Yna, meddyliwch sut gallwch ddangos bod gennych y sgiliau hynny. Edrychwch ar Sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu.
Ceisiwch ddarganfod mwy am y cwmni. Mae hyn yn dangos i’r cyflogwr fod gennych ddiddordeb. Edrychwch ar eu gwefan, ar adrannau fel “Amdanom ni” neu “Cwrdd â’r Tîm”. Edrychwch ar eu negeseuon diweddar ar y cyfryngau cymdeithasol i weld beth maen nhw’n ei wneud.
Meddyliwch pam y byddech yn dda ar gyfer y swydd. Ymarferwch esbonio pam rydych chi eisiau’r swydd a pham rydych chi’n addas.
Edrychwch ar enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad.
Cynlluniwch ar gyfer y diwrnod. Meddyliwch am:
- Sut fyddwch chi’n cyrraedd yno
- Beth fyddwch chi'n ei wisgo
- Beth rydych chi eisiau ei ofyn iddyn nhw
Cysylltwch efo'r cyflogwr cyn eich cyfweliad os oes angen help ychwanegol arnoch. Gall cyflogwyr wneud newidiadau i sicrhau bod y cyfweliad yn deg. Efallai y byddan nhw’n gofyn am hyn ar y ffurflen gais. Edrychwch ar Pa gymorth sydd ar gael i mi mewn gwaith? i wybod mwy am yr help sydd ar gael.
Gwyliwch y fideos
Paratoi ar gyfer cyfweliad
Gwrandewch ar gyngor gan Alun Griffiths Contractors Ltd ar sut i baratoi ar gyfer cyweliad.
Cyfweliadau
Gwyliwch y fideo i wybod beth mae cyflogwyr yn ei ddisgwyl gennych mewn cyfweliad.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Edrychwch ar ein hawgrymiadau da i'ch helpu ar ddiwrnod eich cyfweliad
Dysgwch fwy am y gwahaniaeth rhwng cyfweliadau ffôn a fideo
Edrychwch ar rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad