Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyfweliadau dros y ffôn neu drwy fideo

Efallai y gofynnir i chi wneud eich cyfweliad dros y ffôn, neu drwy alwad fideo. Mae’n ddefnyddiol gwybod sut mae’r rhain yn gweithio.

Beth yw cyfweliad ffôn a fideo?

Dyma pryd mae cyflogwr yn gofyn am gael gwneud y cyfweliad naill ai dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Mae galwad fideo fel arfer yn digwydd ar Teams, Zoom, Skype neu Facetime neu unrhyw blatfform bydd y cyflogwr yn ei ddefnyddio

Sut mae cyfweliad ffôn a fideo yn gweithio?

Fel arfer mae yna ddwy brif ffordd y gallant ddigwydd:

Graffeg o dabled gyda botwm chwarae

Cwestiynau wedi'u recordio ymlaen llaw. Bydd y cyflogwr yn rhoi'r cwestiynau i chi cyn y cyfweliad. Byddwch yn recordio eich hun yn ateb y rhain dros y ffôn neu ar fideo

Graffeg o sgrin cyfrifiadur gyda pherson yn gwisgo tei ar y sgrin

Cwestiynau byw. Mae hyn fel cyfweliad wyneb yn wyneb lle mae cyflogwr yn gofyn cwestiwn i chi a rydych chi’n ateb

Dylech baratoi ar gyfer cyfweliad ffôn a fideo mewn ffordd debyg i gyfweliad wyneb yn wyneb. Gan y byddwch chi'n defnyddio'r ffôn neu fideo bydd angen i chi feddwl am bethau eraill hefyd.

Pethau i feddwl amdanynt os bydd eich cyfweliad ar y ffôn neu fideo.

Fe ddylech:

Graffeg o fys yn gorchuddio gwefusau i awgrymu tawelwch

Wneud yn siŵr eich bod mewn lle tawel. Rhaid i chi allu canolbwyntio ar yr alwad ffôn

Graffeg o beiro ysgrifennu nodiadau ar bapur

Ysgrifennwch rai nodiadau am yr hyn rydych chi am ei ddweud. Er enghraifft, ysgrifennwch restr o'ch sgiliau i'ch atgoffa

Graffeg o gloc larwm

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint o'r gloch sydd angen i chi  ffonio'r cyflogwr neu pryd y bydd y cyflogwr yn eich ffonio chi. Bydd angen i chi wybod eu henw a'u rhif ffôn nhw

Ffôn symudol gydag eicon gwefru batri

Gwnewch yn siŵr fod batri eich ffôn symudol yn llawn a bod gennych ddigon o gredyd

Marc cwestiwn

Ysgrifennwch restr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r cyflogwr.

Grapffeg o gadair

Ceisiwch eistedd yn llonydd. Bydd hyn yn dangos i'r cyflogwr nad ydych wedi cynhyrfu

Graffeg o lygaid

Gwnewch gyswllt llygad â'r cyflogwr. Edrychwch i mewn i'r camera ar y cyfrifiadur

Ar ddiwedd y cyfweliad fe ddylech:

  • Ddiolch i'r cyflogwr am ei amser
  • Ar gyfer cyfweliad ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r ffôn i lawr cyn i chi ddechrau siarad ag eraill
  • Ar gyfer cyfweliad galwad fideo, gadewch y ddolen cyfweliad

Prif Awgrymiadau

Dyma ein prif awgrymiadau i'ch helpu baratoi at gyfweliad ffôn a fideo:

  • Gwisgwch yn smart. Byddwch yn teimlo'n hyderus pan fyddwch wedi gwisgo'n smart er bod y cyflogwr ddim yn eich gweld yn llawn
  • Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn y mae'r cyflogwr yn ei ddweud
  • Ceisiwch wenu pan fyddwch chi'n siarad. Bydd hyn yn gwneud i chi deimlo a swnio'n bositif
  • wnewch yn siŵr bod gwydraid o ddŵr gerllaw. Bydd hyn yn eich helpu os fydd ceg sych gyda chi

Efallai y byddech hefyd yn hoffi