Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Athrawon a staff cefnogi

Mae athrawon a staff cefnogi yn eich adnabod yn dda felly gallant eich helpu i feddwl am beth allech chi ei wneud ar ôl gadael ysgol.

Ffyrdd y gall athrawon a staff cefnogi eich helpu.

Graffeg o athrawes gyda person ifanc ac eiconau swigod siarad

 

 

Gallwch siarad hefo'ch Athrawon a staff cefnogi am unrhyw broblemau neu bryderon sydd gennych.


Graffeg o athrawes a person ifanc a hoel esgidiau

 

 

Gall athrawon a staff cefnogi fynd â chi ar ymweliadau er mwyn eich helpu i benderfynu beth rydych am ei wneud nesaf. Er enghraifft, ymweld â choleg am y diwrnod neu ymweld â chyflogwr ar gyfer profiad gwaith.


Pwy arall sy'n gallu helpu?

Rhieni a gofalwyr

Dewch i wybod sut gall eich rhieni eich helpu gyda chynllunio eich dyfodol.

Cynghorydd Gyrfa

Dewch i wybod sut y gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu gyda chynllunio eich dyfodol.

Cymorth arall

Dewch i wybod am y gefnogaeth sydd ar gael gan Weithwyr Cymdeithasol, Cynghorydd Cyflogaeth i'r Anabl a Gweithwyr Allweddol.