Mae yna bobl a sefydliadau eraill a all eich cefnogi chi i gynllunio'ch dyfodol.
Gweithiwr Cymdeithasol
Gall eich Gweithiwr Cymdeithasol eich helpu mewn gwahanol ffyrdd:
Cefnogi gyda ble rydych chi'n byw
Helpu chi gyda budd-daliadau ac arian
Helpu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel bws neu dren
Cynghorydd Cyflogaeth i'r Anabl neu Anogwr Gwaith
Mae’r Cynghorydd Cyflogaeth i’r Anabl / Anogwr Gwaith yn gweithio mewn Canolfan Waith. Mae’n gallu:
Eich helpu i gael profiad gwaith
Eich cefnogi i ddod o hyd i swydd
Gwneud yn siwr bod gennych y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch pan fyddwch yn dechrau gweithio
Siarad â chi am fudd-daliadau (arian) y byddwch yn eu cael o bosibl
Gweithiwr Allweddol
Mae Gweithwyr Allweddol yn gallu gweithio mewn ysgol neu i’r gwasanaethau cymdeithasol. Byddent yn eich cyfarfod yn yr ysgol, y coleg neu yn eich tŷ. Gall:
Wrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud
Eich helpu gydag unrhyw broblemau a allai fod gennych. Byddant yn siarad gyda chi am y problemau
Siarad hefo pobl ar eich rhan. Os dywedwch y gallant, byddant yn siarad ag oedolion eraill ar eich rhan ac yn dweud wrthynt beth yr ydych chi eisiau
Pwy arall sy'n gallu helpu?
Dewch i wybod sut gall eich rhieni eich helpu gyda chynllunio eich dyfodol.
Dewch i wybod sut y gall Athrawon a staff cefnogi yn yr ysgol eich helpu gyda chynllunio eich dyfodol.
Dewch i wybod sut y gall eich Cynghorydd Gyrfa eich helpu gyda chynllunio eich dyfodol.