Mae Gwybodaeth Marchnad Lafur (GML) yn darparu ystadegau, ymchwil a dadansoddiad am dueddiadau economaidd a gwaith y byd sydd ohoni ac yn y dyfodol.
Mae'n edrych ar y galw, y cyflenwad a ffactorau eraill gan gynnwys newidiadau economaidd a gwleidyddol i lywio a chefnogi penderfyniadau cynllunio gyrfa a busnes. Caiff ei gasglu a'i ddefnyddio'n lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac ar lefel ryngwladol.
Pwysigrwydd GML i chi a'ch myfyrwyr
Mae diweddaru eich hun â beth sy'n mynd ymlaen yn y farchnad lafur yn bwysig i unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau gyrfa. Dylai GML chwarae rhan allweddol mewn unrhyw adran gyrfaoedd. Dylech chi a'ch myfyrwyr fod yn ymwybodol o:
- Pa gyfleoedd sydd ar gael ar eu cyfer
- Beth yw'r tueddiadau yn y dyfodol yn debygol o fod mewn gwahanol sectorau
- Pa gymwysterau a sgiliau y bydd eu hangen arnynt
- Sut mae angen iddynt baratoi ar gyfer cystadlu am swyddi mewn rhai sectorau
Dod o hyd i GML ar ein gwefan
Gellir canfod gwybodaeth marchnad lafur mewn adrannau allweddol ar ein gwefan:
Effaith y pandemig COVID-19 ar y farchnad lafur yng Nghymru
Gweld ein bwletin misol diweddaraf - Tachwedd 2020:
Rhai gwefannau GML defnyddiol
Arsyllfeydd Sgiliau Rhanbarthol
Arsyllfa Economaidd Gogledd Cymru
Arsyllfa Sgiliau De Ddwyrain Cymru
Arsyllfa Dysgu & Sgiliau De Orllewin a Chanolbarth Cymru
Cyffredinol
(Mae rhai o'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Swyddfa ar gyfer Ystadegau Cenedlaethol
ONS Census
Llywodraeth Cymru - Ystadegau ac ymchwil
Porth Sgiliau - Gwybodaeth am y Farchnad Lafur
Cynghorau Sectorau Sgiliau
Diddordeb mewn cael gwybod mwy am ddefnyddio GML gyda'ch myfyrwyr?
Gall Gyrfa Cymru helpu. Ebostiwch eich Cydlynydd Gyrfaoedd a Byd Gwaith lleol i drafod sut i integreiddio GML yn eich cwricwlwm.