Llythyr cais enghreifftiol - dychwelyd i'r gwaith
Mae'r llythyr cais yma'n tynnu sylw at ba swydd rydych chi'n ymgeisio amdani a'ch sgiliau a'ch rhinweddau allweddol.
Byddai'r llythyr cais yma'n ddefnyddiol pan fyddwch chi:
- Yn dychwelyd i'r byd gwaith ar ôl cyfnod i ffwrdd
- Hefo bylchau yn eich hanes gwaith neu rydych chi wedi bod mewn sawl swydd gwahanol
Morgan Jones
675 Gerddi Elton
Y Porth
CF65 9YY
Ffôn: 01443 995444
Ebost: morganjones968@walesmail.net
24 Ionawr 2023
Mr Aled Michael
Cyfarwyddydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Wisgi Cymreig
Uned 36 Parc Menter Manor Farm
The Ridgeway
Treherbert
CF75 7QT
Annwyl Mr Michael
CYF: Swydd Tywysydd Teithiau (cyfeirnod CF/659560)
Rwy’n ysgrifennu atoch i wneud cais am eich swydd a hysbysebwyd yn ddiweddar fel Tywysydd Teithiau, a welais yn cael ei hysbysebu ar wefan Findajob. Gweler fy CV sydd wedi ei atodi, sy'n nodi fy sgiliau a'm profiad.
Mae gen i 12 mlynedd o brofiad yn y sector manwerthu, gan gynnwys 6 mlynedd fel arddangoswr cynnyrch. Cyflwynais arddangosiadau byw o broseswyr bwyd i gwsmeriaid ac offer cegin arall ar gyfer siop adrannol. Ar un achlysur, cynyddais werthiant cynnyrch amhoblogaidd dros 150 y cant trwy ei ddangos i gwsmeriaid gan ddefnyddio fy mhersonoliaeth gynnes a chyfeillgar a gwybodaeth fanwl am y cynnyrch.
Mae gen i sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, fel y dangoswyd gan fy nyrchafiad o waith gwerthu ar y llawr i arddangos cynhyrchion. Ers hynny rwyf wedi datblygu sgiliau hyfforddi a chyflwyno rhagorol. Mae fy sgiliau eraill yn cynnwys trin arian, cynllunio a threfnu.
Yn ddiweddar cymerais seibiant o’r gwaith i fagu fy mhlant, ond teimlaf fy mod bellach yn barod i ailafael yn fy ngyrfa a chanolbwyntio ar ddychwelyd i’r gweithle.
Rwy'n hyderus bod gen i'r sgiliau, y rhinweddau a'r profiad i fod yn rhan werthfawr o'ch tîm.
Diolch am ystyried fy nghais. Gobeithiaf glywed gennych yn fuan.
Yr eiddoch yn gywir
Morgan Jones
Dogfennau
Gweld mwy
Bydd yr esiampl llythyr cais yma'n addas pan ydych yn ymgeisio am eich swydd gyntaf.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch yn ystyried newid gyrfa.
Bydd y llythyr cais yma'n addas pan fyddwch chi'n ysgrifennu at gwmni i ofyn yn ddyfaliadol am gyfleoedd gwaith.
Gwnewch argraff gyntaf dda yn eich e-bost neu lythyr eglurhaol gyda'n cymorth ni.