Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2021

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2021, roedd 813 o bobl ifanc a oedd yn gadael yr ysgol o Flynyddoedd 11, 12 ac 13 yng Nghymru yn NEET, sef 1.5% o’r holl garfan
  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae canran uwch o bobl ifanc NEET yng ngharfan Blwyddyn 13 (2.3% (251) unigolyn) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (1.6% - 507 unigolyn) a Blwyddyn 12 (0.4% - 55 unigolyn)
  • Mae canran y cleientiaid Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, oherwydd eu bod yn gofalu am eraill, neu oherwydd beichiogrwydd yn 1.1%. Yn yr un categori, roedd canran y disgyblion Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 1.1%, yn y drefn honno
  • Mae canran y merched NEET ym Mlwyddyn 11 nad oeddynt yn gallu cael gwaith, addysg na hyfforddiant ychydig yn uwch na chanran y bechgyn (69.8% o ferched NEET a 65.8% o fechgyn NEET).

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Y dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd ymhlith disgyblion ym mhob un o’r tri grŵp blwyddyn oedd parhau mewn addysg amser llawn
  • Dewisodd canran uwch o ferched ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn o gymharu â bechgyn
Tabl yn dangos data carfan, bechgyn, merched a’r gwahaniaeth
CarfanBechgynMerchedGwahaniaeth
Blwyddyn 1186.0%91.3%5.3 pwynt canran
Blwyddyn 1295.5%96.5%1.1 pwynt canran
Blwyddyn 1373.1%79.7%6.6 pwynt canran

O ran y rhai sy’n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, roedd Addysg Bellach (AB) yn ddewis mwy poblogaidd na’r chweched dosbarth mewn ysgolion, a hynny o 11.7 pwynt canran.

  • Chweched dosbarth 44.2%
  • Coleg AB 55.8%

Yn 2021, o’r rhai a ddosbarthwyd yn rhai sy’n parhau mewn Addysg Amser Llawn, roedd dilyn Addysg Bellach yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn a merched. Roedd y gwahaniaeth yn fwy i fechgyn (58.0% yn mynd i AB, o gymharu â 42.0% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (53.6% yn mynd i AB, o gymharu â 46.4% yn aros yn yr ysgol).

Ym Mlynyddoedd 11 a 13, arhosodd canran uwch o’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn addysg amser llawn o gymharu â grwpiau gwyn. Ym Mlwyddyn 12, arhosodd canran ychydig yn uwch o’r rhai mewn grwpiau ethnig gwyn mewn addysg amser llawn o gymharu â’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 1188.3%92.4%
Blwyddyn 1296.1%96.0%
Blwyddyn 1376.2%80.8%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i waith a hyfforddiant gyda nawdd y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) uchaf ymhlith y rhai ym Mlwyddyn 13, sef 13.5% (1477 unigolyn), ond dim ond 7.8% (2,500 unigolyn) o garfan Blwyddyn 11 a 2.1% (259 unigolyn) o garfan Blwyddyn 12 ddewisodd un o’r opsiynau hyn
  • Roedd canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i weithio yn 2.8% ar gyfer Blwyddyn 11, 1.3% ar gyfer Blwyddyn 12 ac 11.5% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd ymuno â’r farchnad lafur (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymysg bechgyn o gymharu â merched ar draws y 3 carfan yn 2021
Tabl yn dangos canran y bechgyn a merched yn ôl grŵp blwyddyn sy'n dewis ymuno â'r farchnad lafur
CarfanBechgynMerched
Blwyddyn 119.9%5.6%
Blwyddyn 122.3%1.9%
Blwyddyn 1315.7%11.6%

O’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, roedd y ganran a ymunodd â’r farchnad lafur (gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle) yn llai o lawer o gymharu â grwpiau gwyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
CarfanGwynLleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 118.2%3.6%
Blwyddyn 122.3%0.6%
Blwyddyn 1314.4%5.9%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y cyfanswm ‘Dim Ymateb’ yn 2.3% pwynt canran. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd ‘dim ymateb’ uchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 7.0% (764 o unigolion). Mae’r grŵp carfan hwn yn parhau i fod â’r gyfradd ‘dim ymateb’ uchaf.

Tabl yn dangos data cyfradd dim ymateb
Blwyddyn 111.1%
Blwyddyn 121.1%
Blwyddyn 137.0%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn