Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2021

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2021, yn cwmpasu 32,039 o ddisgyblion, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 11 yn 2021.

  • Roedd 51.0% (16,350 o unigolion) yn fechgyn a 48.9% (15,656 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 33 o ddisgyblion (0.1%) ddisgrifio eu hunain fel arall
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 93.9% (30,082 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 92.7% o fechgyn, 95.1% o ferched a 97.0% o ddisgyblion yn y categori arall
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 88.6 % (28,392 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn, roedd 55.8% yn parhau mewn coleg addysg bellach (15,852 o unigolion) a 44.2% (12,540 o unigolion) yn parhau â’u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (4.4 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (4.4 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Ymunodd 7.8% o’r garfan (2,500 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 4.3 pwynt canran (9.9% o fechgyn o gymharu â 5.6% o ferched)
  • Dewisodd 2.7% (861 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 2.3% o’r garfan (729 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (1.2%) na merched (1.2%) yn y categori hwn (gwahaniaeth o 2.2 pwynt canran)
  • Dewisodd 2.8% (910 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Dewisodd mwy o fechgyn na merched y llwybr hwn; gwahaniaeth o 1.7 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 1.6% o’r garfan (507 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET). Bechgyn oedd 56.0% o’r cyfanswm (284 o unigolion) o gymharu â 43.8% o ferched (222 o unigolion). Mae hyn yn wahaniaeth o 12.2 pwynt canran rhwng merched a bechgyn
  • Roedd 32.5% (165 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET) (o gymharu â’r 342 (67.5%) unigolyn nad oedd yn gallu mynd i EET oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati)
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.1% o’r garfan (365 o unigolion)
  • Roedd 0.5% (175 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 11

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 11 yn dangos bod y mwyafrif (88.6%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 11
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser14,06286.014,29891.33297.028,39288.6
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)750.5250.200.01000.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig4712.93902.500.08612.7
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig5483.41811.200.07292.3
Cyflogedig - Arall6003.73102.000.09102.8
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant2841.72221.413.05071.6
Dim ymateb i'r arolwg2291.41360.900.03651.1
Wedi gadael yr ardal810.5940.600.01750.5
Cyfanswm y garfan16,35010015,6561003310032,039100

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn86%
Merched91.3%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Llawn Amser
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr ysgol5,90242.06,62946.4928.112,54044.2
Parhau i Flwyddyn 12 mewn colegau Addysg Bellach8,16058.07,66953.62371.915,85255.8
Cyfanswm14,06210014,2981003210028,392100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig ar waith (i bobl ifanc)
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith9734.26730.21100.016532.5
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd a rhesymau arall18765.815569.800.034267.5
Cyfanswm2841002221001100507100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 92.4% (o gymharu ag 88.3% o’r rhai o gefndir gwyn)
  • Ymunodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn â’r amrywiol gategorïau yn y farchnad lafur (8.2%) o gymharu â’r rhai o leiafrifoedd ethnig (3.6%)
  • Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn hanu o gefndiroedd gwyn (1.6% neu 480 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrifoedd ethnig (0.9% neu 23 o unigolion)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)25,74988.32,34092.430386.628,39288.6
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr)920.370.310.31000.3
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig8052.8431.7133.78612.7
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - statws cyflogedig7122.4140.630.97292.3
Cyflogedig8673.0351.482.39102.8
Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant4801.6230.941.15071.6
Anhysbys3241.1371.541.13651.1
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal1280.4331.3144.01750.5
Cyfanswm y garfan29,1571002,53210035010032,039100
% o'r garfan gyfan 91.0 7.9 1.1 100

Gweld grwpiau blwyddyn eraill