Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2021

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2021, yn cwmpasu 12,411 o ddisgyblion, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 12 yn 2021.

  • Roedd 45.9% (5,694 o unigolion) yn fechgyn a 54.0% (6,708 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 9 o ddisgyblion (0.1%) ddisgrifio eu hunain fel arall
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 96.9% (12,027 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 96.6% o fechgyn a 97.2% o ferched
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 96.1 % (11,922 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • O’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn (11,420 o unigolion), roedd 95.8% yn parhau mewn ysgol a 4.2% yn parhau mewn coleg addysg bellach (495 o unigolion)
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (1.4 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched (1.4 pwynt canran yn fwy na bechgyn) aros yn yr ysgol
  • Ymunodd 2.1% o’r garfan (259 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 0.4 pwynt canran (2.3% o fechgyn o gymharu â 1.9% o ferched)
  • Dewisodd 0.2% (21 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 0.6% o’r garfan (75 o unigolion) hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (0.7%) na merched (0.5%) yn y categori hwn
  • Dewisodd 1.3% (163 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Roedd y ganran yr un fath ar gyfer bechgyn (1.3%) a merched (1.3%) ond roedd mwy o ferched (87) na bechgyn (76)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 0.4% o’r garfan (55 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Bechgyn oedd 50.9% o’r cyfanswm (28 o unigolion) o gymharu â 49.1% o ferched (27 o unigolion)
  • Roedd 36.4% (10 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (EET)
  • Ni lwyddodd 63.6% (35 o unigolion) o’r rhai a oedd yn NEET i fynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.1% o’r garfan (142 o unigolion)
  • Roedd 0.2% (24 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 12

Siart bar o gyrchfannau disgyblion Blwyddyn 12 yn dangos bod y mwyafrif (96.1%) yn parhau mewn addysg llawn amser. Mae'r holl ddata yn y tabl isod.
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 12
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser
 
5,43795.56,47696.59100.011,92296.1
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos)70.120.000.090.1
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws anghyflogedig120.290.100.0210.2
Hyfforddiant yn Seiliedig ar Waith - Statws cyflogedig420.7330.500.0750.6
Cyflogedig - Arall761.3871.300.01631.3
Gwyddys nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant280.5270.400.0550.4
Dim ymateb i'r arolwg841.5580.900.01421.1
Wedi gadael yr ardal80.1160.200.0240.2
Cyfanswm y garfan5,6941006,708100910012,411100

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos canran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser yn ôl rhywedd
RhyweddCanran y myfyrwyr a arhosodd mewn Addysg Llawn Amser
Bechgyn95.5%
Merched96.5%
Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr ysgol5,16795.06,24596.4888.911,42095.8
Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach2684.92263.5111.14954.2
Blwyddyn 12 parhau i Addysg Uwch (AU)20.050.100.070.1
Blwyddyn 12 yn cymryd blwyddyn i ffwrdd gyda'r bwriad o fynd i AU00.000.000.000.0
Cyfanswm5,4371006,476100910011,922100

Gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth neu Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc)
StatwsBechgyn%Merched%Arall%Cyfanswm%

Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith
932.11140.7002036.4
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati1967.91659.3003563.6
Cyfanswm28100271000055100

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd:

  • Y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 96.0%. Mae hyn ychydig yn is na’r gyfran ar gyfer rhai o gefndir gwyn (96.1%)
  • Roedd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (1.2 pwynt canran o wahaniaeth) wedi’u cynrychioli yn y categori 'cyflogedig - arall', 1.5% o gefndir gwyn o gymharu ag 0.3% o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig
  • Mae’r ffigur NEET ar gyfer y rhai o gefndir gwyn yr un fath ag yw ar gyfer y rhai o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (0.5%)
Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd
StatwsGwyn%Grwpiau lleiafrifoedd ethnig%Dim gwybodaeth am darddiad ethnig%Cyfanswm%
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau)10,06996.11,20396.065095.611,92296.1
Parhau mewn Addysg Ran Amser (llai na 16 awr yr wythnos)80.100.010.190.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-Waith190.210.110.1210.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith690.720.240.6750.6
Cyflogedig1541.540.350.71631.3
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith480.560.510.1550.4
Anhysbys1041.0302.481.21421.1
Ymadawyr Ysgol Statudol y gwyddys eu bod wedi gadael yr ardal70.170.6101.5240.2
Cyfanswm y garfan10,4781001,25310068010012,411100
% o'r garfan gyfan 84.4 10.1 5.5 100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill