Pan fydd diwrnod eich cyfweliad wedi cyrraedd efallai y byddwch yn teimlo'n nerfus ond yn gyffrous hefyd. Mae hyn yn naturiol.
Sut dyliwn ni baratoi?
Cofiwch:
Y noson gynt, cofiwch osod eich larwm i wneud yn siŵr eich bod yn deffro ar amser.
Wisgo yn smart. Gwnewch yn siŵr eich bod yn lân ac yn daclus.
Rhoi digon o amser i gyrraedd y cyfweliad.
Fynd â rhestr o'r cwestiynau rydych chi am eu gofyn i'r cyflogwr
Beth ddylwn i wneud yn y cyfweliad?
Fe ddylech chi:
Ddweud eich enw ac edrychwch ar y person rydych yn siarad ag ef.
Trio eistedd yn llonydd a pheidiwch â symud gormod.
Gwrando yn ofalus. Os nad ydych yn deall, gofynnwch iddynt egluro.
Ateb y cwestiynau'n glir a chymryd eich amser.
Gofyn cwestiynau
Ar y diwedd, efallai y byddan nhw'n gofyn a oes gennych chi gwestiynau. Mae'n dda gofyn rhai cwestiynau, gan eo fod yn dangos bod gennych chi ddiddordeb yn y swydd.
Gallech ofyn:
- Pa hyfforddiant gallen nhw gynnig i chi i'ch helpu i ennill sgiliau a chymwysterau newydd?
- Pryd fyddai'r swydd newydd yn dechra?
- Pryd gewch chi glywed a ydych chi wedi cael y swydd?
Gofyn am adborth
Os na chewch y swydd, gallwch gysylltu hefo'r cwmni a gofyn pam.
Dyma ydi adborth. Mae'n eich helpi i wella. Mae'n eich helpu i feddwl am yr hyn y gallech chi ei wneud yn wahanol pan gewch gyfweliad arall.
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Edrychwch ar rai o'n hawgrymiadau da i'ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad
Edrychwch ar rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad