Bydd angen i'ch plentyn wneud cyfres o benderfyniadau dysgu a gyrfa drwy gydol eu bywydau. Rydym yn darparu arweiniad, hyfforddiant ac ysbrydoliaeth i'w helpu.
Beth yw gwaith cynghorydd gyrfa?
Mae Cynghorwyr Gyrfa yn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am addysg, hyfforddiant a gwaith.
Mae ein Cynghorwyr Gyrfa wedi'u hyfforddi'n broffesiynol. Mae ganddynt gymhwyster Lefel 6 mewn Canllawiau a Datblygu Gyrfa neu gymhwyster cyfatebol. Maent wedi'u cofrestru gyda'r Sefydliad Datblygu Gyrfa (CDI) Cofrestr y DU o Weithwyr Proffesiynol Datblygu Gyrfa.
Sut rydym ni’n cefnogi eich plentyn
Rydym am annog eich plentyn i fod yn bositif ac yn llawn cyffro am ei ddyfodol. Byddwn ni'n eu helpu i wneud y penderfyniadau gyrfa gorau ar eu cyfer er mwyn iddynt gyrraedd eu potensial.
Mae gan bob ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru gynghorydd gyrfa. Bydd eich plentyn yn gallu cyfarfod ag un o'n cynghorwyr yn yr ysgol uwchradd yn gyntaf.
Mae'r gefnogaeth y mae eich plentyn yn ei dderbyn wedi ei bersonoli i’w anghenion. Mae cynghorwyr gyrfa yn defnyddio amrywiaeth o offer a gwybodaeth i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen ar eich plentyn.
Mae gan bawb fynediad i'n hoffer a'n hadnoddau digidol.
Mae rhai dysgwyr yn ei chael hi'n anodd symud i fyd addysg, hyfforddiant neu swydd pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol. Rydym yn gweithio gydag ysgolion i ddod o hyd i unigolion sy'n debygol o fod yn y sefyllfa yma gan roi cefnogaeth ychwanegol i'r bobl ifanc hyn.
Yr hyn y mae Cynghorwyr yn ei gynnig
Yn ystod sesiynau grŵp ac unigol, bydd cynghorwyr yn anelu at:
- Ehangu gorwelion
- Datblygu sgiliau allweddol ar gyfer cynllunio gyrfa, yn y tymor byr a'r tymor hir
- Codi ymwybyddiaeth o'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi presennol a swyddi’r dyfodol
- Cefnogi bobl ifanc i wneud penderfyniadau ar gyfer eu camau nesaf a thu hwnt
Addysg gyrfaoedd mewn ysgolion
Mae'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer plant 3 ac 16 oed. Rhaid i bob maes gynnwys ac addysg cysylltiedig â gwaith. Mae hyn yn golygu y bydd eich plentyn yn datblygu ei ddealltwriaeth o fyd gwaith ar draws pob pwnc.
Mae gwasanaethau Gyrfa Cymru yn helpu'ch plentyn i gymhwyso'r dysgu hwn iddo'i hun a'i ddatblygiad gyrfa ei hun.
Staff eraill Gyrfa Cymru sy'n cefnogi ysgolion
Cydlynwyr Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith
Mae Cydlynwyr Cwricwlwm Gyrfa a Phrofiadau Cysylltiedig â Gwaith yn helpu athrawon i gynnwys addysg gyrfaoedd yn eu gwersi.
Mae nhw'n darparu adnoddau ar-lein i ysgolion cynradd. Mae nhw'n gweithio gydag athrawon mewn ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig. Mae nhw hefyd yn gweithio gyda cholegau.
Mae nhw wedi sefydlu digwyddiadau dysgu ar gyfer athrawon, llywodraethwyr, a thimau arweinyddiaeth.
Cynghorwyr Cyswllt Busnes (BEA)
Mae ein Partneriaeth Addysg Busnes yn dod ag ysgolion a chyflogwyr at ei gilydd. Mae Cynghorwyr Cyswllt Busnes yn cynllunio a chefnogi gweithgareddau i ysbrydoli pobl ifanc am eu cyfleoedd gyrfa.
Maent yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig.
Gallai gweithgareddau:
- Gynnwys un cyflogwr neu sawl cyflogwr
- Digwydd wyneb yn wyneb neu'n ddigidol
- Bod â ffocws gyrfa neu sector, neu gefnogi rhan o'r cwricwlwm
Gallai'r gweithgareddau gynnwys:
- Cyflwyniadau gan gyflogwr
- Gweithdai dan arweiniad cyflogwyr
- Tasgau neu heriau a osodir gan gyflogwyr
- Ymweliadau â safleoedd cyflogwyr
Mae Cynghoryddion Cyswllt Busnes hefyd yn trefnu digwyddiadau lle gall disgyblion gyfarfod a chlywed gan lawer o gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys Cymraeg yn y Gweithle a Beth Nesaf?
Yr ysgolion sy'n gyfrifol am drefnu profiad gwaith ar gyfer eu disgyblion. Ond, rydym ni'n trefnu rhai gweithgareddau profiad gwaith.
Manylion sydd gennym am eich plentyn a pham
Mae angen i ni gadw data personol am y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw i ddarparu ein gwasanaethau.
I helpu eich plentyn i gynllunio ei ddyfodol byddwn yn cadw gwybodaeth a all gynnwys:
- Eu henw
- Cyfeiriad cartref
- Pynciau mae nhw'n eu hastudio
- Canlyniadau arholiadau
- Profiad gwaith
- Unrhyw syniadau a allai fod ganddynt am eu haddysg neu eu gyrfa yn y dyfodol
- Manylion am unrhyw anghenion cymorth a allai fod ganddynt
- Manylion cyswllt ar eu cyfer nhw a rhiant/gwarcheidwad
Mae’n bosibl y byddwn yn rhannu neu’n derbyn data personol amdanynt gyda neu gan eu hysgol, coleg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau eraill a allai eu helpu gyda’u cynlluniau gyrfa yn y dyfodol.
Rydym yn trin data personol gyda pharch. Dysgwch fwy yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Gallwn gysylltu â chi neu'ch plentyn drwy e-bost, neges destun neu ffôn. Bydd hyn er mwyn anfon gwybodaeth atynt sy'n berthnasol i'w haddysg a'u syniadau gyrfa.
Cymorth bob cam o’r ffordd
Dysgwch am y penderfyniadau y bydd eich plentyn yn eu gwneud, sut rydym yn helpu a sut y gallwch adeiladu ar hyn gartref.
Cyfle i gael syniadau i archwilio byd gwaith gyda'ch plentyn gartref a darganfod sut rydym yn cefnogi ysgolion cynradd.
Dysgwch am y dewisiadau y bydd eich plentyn yn eu gwneud ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 a’r cymorth sydd ei angen arnynt.
Mynnwch wybodaeth am yr opsiynau sydd gan eich plentyn ar ôl blwyddyn 11 a sut i'w helpu.
Dysgwch am ffyrdd o gefnogi eich plentyn gyda phenderfyniadau dysgu a gyrfa mewn addysg bellach.
Dysgwch sut gallwn ni helpu'ch plentyn os ydyn nhw'n chwilio am swydd neu os ydyn nhw mewn gwaith neu hyfforddiant yn y gwaith a sut gallwch chi eu cefnogi.