Mae JCB yn un o’r tri gwneuthurwr offer adeiladu gorau yn y byd. Mae’r cwmni wedi ysbrydoli llawer o bobl ifanc i ddilyn gyrfa ym maes adeiladu.
Gweithio gyda Gyrfa Cymru
Mae JCB wedi cefnogi llawer o weithgareddau gan gynnwys:
- Sgyrsiau prentisiaid
- Ffug gyfweliadau
- Digwyddiadau Dewiswch Eich Dyfodol
- Rhwydweithio ymhlith cyflogwyr
- Diwrnod canlyniadau ffug
- Sgyrsiau cyn-fyfyrwyr
Mae JCB hefyd yn Bartner Ysgol Gwerthfawr gydag Ysgol y Grango.
Gweithio gyda’r ysgol
Mae gan JCB ystafell ddosbarth bwrpasol ar gyfer dysgwyr. Craig Weeks yw Rheolwr Cyffredinol JCB Transmissions yn Wrecsam. Mae’n siarad â grwpiau disgyblion cyn ac ar ôl iddynt fynd ar daith o amgylch y cyfleuster gweithgynhyrchu.
Mae JCB hefyd wedi rhoi lluniau mawr o’u hoffer ar gyfer ystafelloedd dosbarth peirianneg mewn ysgolion. Maen nhw’n gobeithio y bydd y delweddau’n hybu ac yn ysbrydoli gyrfaoedd mewn peirianneg.
Enillwyr Gwobrau
Cyflwynwyd Gwobr Partner Gwerthfawr i JCB gan Gyrfa Cymru ym mis Tachwedd 2023. Enillon nhw yn y categori Newydd-ddyfodiad Gorau. Roedd hyn yn cydnabod ymgysylltiad a phartneriaeth ddiweddar y cwmni â Gyrfa Cymru.
Mae cynghorydd ymgysylltu busnes Gyrfa Cymru, Lesley Lloyd, yn gweithio’n agos gyda Craig a JCB. Dywedodd hi: “Mae’r gefnogaeth gan JCB wedi bod yn wych.
Mae ymrwymiad Craig i ysbrydoli pobl ifanc wedi bod heb ei ail.” “Mae eisiau creu partneriaethau ystyrlon a hirhoedlog gydag ysgolion. Mae’n frwd dros ysbrydoli pobl yn Wrecsam i weld JCB fel cyflogwr o ddewis.”
Dywedodd Craig Weeks: “Dyma ddechrau taith i ni. Rydym wedi ein syfrdanu gyda’r wobr hon, ac ni allaf aros i barhau â’r gwaith gyda Gyrfa Cymru yn y dyfodol.”
Archwilio
Gyda chefnogaeth Gyrfa Cymru fe allwch chi wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc, a chael budd i'ch busnes.
Dysgwch sut y gallwn eich cefnogi i weithio gydag ysgolion er budd dysgwyr a'ch sefydliad.
Mae’r Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr yn ffordd i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau a fu’n gweithio gyda ni ac yn rhan hanfodol o gefnogi ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith.