Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion 2023

Mae Gyrfa Cymru yn llunio arolwg blynyddol o'r rhai sydd wedi gadael yr ysgol ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r arolwg yn rhoi darlun defnyddiol o hynt disgyblion.

Mae hynt disgyblion yn cael eu hadrodd fesul grŵp blwyddyn. Hynt disgybl yw eu gweithgaredd hysbys ar 31 Hydref ar ôl iddynt adael y grŵp blwyddyn hwnnw. Er enghraifft, mae hynt Blwyddyn 11 yn dangos gweithgaredd disgyblion y mis Hydref ar ôl iddynt adael y flwyddyn ysgol honno.

Ynglŷn â’r arolwg hynt

Rydym yn llunio'r arolwg o'r data a ddarparwyd i ni. Rydym yn dibynnu ar sefydliadau partner yn rhannu gwybodaeth myfyrwyr i roi darlun mor llawn â phosibl.

Mae'r arolwg yn llywio cydweithwyr yn eu gwaith gyda chwsmeriaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr. Mae'r data hefyd yn helpu partneriaid sy'n ymwneud â chynllunio cyfleoedd dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth.

Mae'r arolwg yn edrych ar y llwybrau dilyniant a ddewisir gan bobl ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Addysg
  • Cyflogaeth
  • Hyfforddiant

Rydym yn darparu dadansoddiad pellach yn seiliedig ar ethnigrwydd a rhyw ddisgyblion, lle mae'r wybodaeth ar gael.

Pwy mae'r arolwg yn ei gynnwys?

Mae arolwg eleni yn adrodd am hynt 54,924 o ddisgyblion o ysgolion uwchradd ledled Cymru. Dim ond disgyblion sydd wedi'u cynnwys yn nata'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) a gesglir ym mis Ionawr bob blwyddyn y mae'n ei gynnwys. Mae felly yn cynnwys:

  • Disgyblion sydd wedi cyrraedd oedran gadael statudol ym Mlwyddyn 11
  • Disgyblion sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13
  • Disgyblion o ysgolion arbennig yn y grwpiau blwyddyn hyn

Nid yw’r arolwg yn cynnwys disgyblion:

  • Sy'n mynychu Colegau Addysg Bellach (AB)
  • Sy'n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS)
  • Sy'n mynychu ysgolion annibynno

Mae bechgyn yn cyfrif am 49.5% o'r garfan gyfan (27,195 o unigolion) a merched yn cyfrif am 50.5% (27,722 o unigolion). Nododd 7 o ddisgyblion eu bod yn y categori arall ac mae’n well gennyf beidio â dweud ar gyfer rhyw.

Pwyntiau i'w nodi

Yn 2023, roedd canran y rhai sy’n gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 11 y gwyddys Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET) yn debyg i’r llynedd, 2.0% yn 2023 o’i gymharu â 2.1% yn 2022.

Canran y disgyblion sy’n gadael Blwyddyn 11 ac yn ymuno â’r farchnad lafur (cyflogaeth a hyfforddiant seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig neu ddi-waith) yw’r uchaf ers 2008, sef 9.0%.

Gostyngodd y ganran o ymadawyr ysgol Blwyddyn 11 a ddychwelodd i addysg amser llawn eto yn 2023 i 86.7%. Dyma’r ganran isaf ers 2013. (Roedd 2018 yn eithriad gyda chyfradd ‘Dim ymateb’ uchel iawn yn dilyn cyflwyno’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Ni fu’n bosibl cwblhau cytundebau rhannu data gyda’r holl sefydliadau mewn pryd ar gyfer arolwg 2018)

Wrth gymharu data 2023 â blynyddoedd blaenorol, mae’n bwysig ystyried ffactorau dylanwadol eraill, yn benodol, y gyfradd ‘Dim ymateb’ uchel yn 2018 ac absenoldeb unrhyw arholiadau allanol yn 2020 neu 2021 oherwydd pandemig Covid.

Noder:

  • Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu ac felly ni fydd y cyfanswm yn 100% bob tro
  • Gallai ffigyrau cenedlaethol guddio amrywiannau ar lefel rhanbarthau, awdurdodau lleol a sefydliadau ym mhob carfan. Rydym yn darparu hynt y disgyblion fesul ardal awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r dadansoddi ar lefel leol
  • Efallai nad yw’r graffeg i'r union raddfa ac maent ar gyfer cynrychiolaeth weledol yn unig
  • Pan ddangosir newidiadau neu wahaniaethau o ran pwynt canrannol, cyfrifir y rhain gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu. Gall hyn ddarparu ffigur gwahanol o gymharu â defnyddio ffigurau wedi'u talgrynnu
Diffiniadau
Termau a diffiniadau
Addysg Amser LlawnY rhai sydd mewn addysg am fwy nag 16 awr yr wythnos
Addysg Bellach (AB)Addysg Bellach mewn coleg, yn cynnwys colegau trydyddol ôl-16 yn hytrach na mewn chweched dosbarth mewn ysgol (blynyddoedd 12 ac 13)
Addysg Ran-amserY rhai sydd mewn addysg ran-amser am 16 awr neu lai yr wythnos. Dyma’r rhai oedd yn arfer bod yn y categori NEET ond sydd wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009
Blwyddyn i FfwrddDim ond y rhai ar flwyddyn ffurfiol i ffwrdd (h.y. y rhai sydd wedi gwneud cais i UCAS a chael mynediad wedi’i ohirio i Addysg Uwch) sy’n cael eu cynnwys yn y ffigurau blwyddyn i ffwrdd. Mae unigolion sydd heb fynd i Addysg Uwch, ond sy’n meddwl am wneud cais wedi’u cynnwys o dan cyrchfannau perthnasol eraill (ar 31 Hydref yn dilyn dyddiad gadael yr ysgol)
Grwpiau lleiafrifoedd ethnigCyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn a Du Caribïaidd Cymysg; Gwyn a Du Affricanaidd Cymysg; Gwyn ac Asiaidd Cymysg; Cymysg Arall; Indiaidd, Pacistanaidd; Bangladeshaidd; Asiaidd Arall; Caribïaidd; Affricanaidd; Du Arall; Tsieinïaidd; Grŵp Ethnig Arall
GwynCyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn Prydeinig; Gwyn Gwyddelig; Gwyn Arall
Hyfforddiant yn y GweithleMae hyn yn cynnwys Prentisiaethau Modern a hyfforddiant arall a ariennir gan y Llywodraeth
Hyfforddiant yn y Gweithle – statws anghyflogedigMae hyn yn cynnwys pob math o hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig a ariennir gan y Llywodraeth
Nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydynt ar gael i weithio a’r rhai di-waith. Roedd pobl ifanc mewn addysg ran-amser (16 awr neu lai yr wythnos) yn arfer bod yn rhan o’r categori hwn ond maent wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009
Wedi gadael yr ardalY rhai sydd wedi gadael Cymru