Mae dewis pynciau a chyrsiau’n benderfyniad pwysig.
Gall dewis y pynciau a’r cyrsiau iawn eich helpu i astudio ar gyfer yr yrfa rydych chi ei heisiau neu'n cadw'ch opsiynau ar agor os nad ydych yn siŵr.
Cwestiynau pwysig i’w gofyn
I'ch helpu i benderfynu sut i ddewis pa bynciau a chyrsiau i'w hastudio, gofynnwch i chi'ch hun:
1. Pa bynciau ydw i yn eu mwynhau?
Meddyliwch am y pynciau rydych yn eu mwynhau orau. Rydych yn fwy tebygol o gael graddau gwell yn y pynciau rydych chi'n eu mwynhau. Meddyliwch am y graddau rydych yn eu cael fel arfer yn eich pynciau a siaradwch gyda eich athrawon a thiwtoriaid i weld beth rydych yn anelu i'w gael.
2. Sut rwy'n hoffi dysgu?
Rydym i gyd yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol. A wyddoch chi bod 3 arddull dysgu:
- Gweledol (dysgu orau trwy weld pethau)
- Clywedol (dysgu orau trwy glywed pethau)
- Cinesthetig/ymarferol (dysgu orau trwy wneud pethau)
Efallai i chi ddysgu orau drwy gyfuniad o ffyrdd. Gall wybod sut yr ydych yn dysgu eich helpu i ddewis y bwnc neu gwrs cywir:
- A oes well gennych wrando, siarad ac ysgrifennu? Yna efallai mai cwrs academaidd fyddai'n eich siwtio
- Neu, ydych chi'n mwynau defnyddio eich dwylo a dysgu drwy wneud? Yna efallai mai cwrs galwedigaethol neu Brentisiaeth fyddai orau i chi
3. Pa bwnc ar gyfer pa yrfa?
Ffaith: Gall y pwnc neu gwrs yr ydych yn ei ddewis effeithio ar eich opsiynau gyrfa.
Felly, mae'n bwysig gwybod pa bwnc, cwrs, lefel cymhwyster a graddau sydd ei angen ar gyfer gwahanol swyddi. Edrychwch ar Gwybodaeth am Swyddi i ddysgu beth mae'r swydd yn ei olygu, beth yw'r cyflog a sut i fynd mewn i'r swydd.
A wyddoch chi?
- Mae rhai gyrfaoedd yn gofyn i chi gael cymhwyster arbenigol a phynciau a graddau penodol er mwyn cael mynediad ar gyrsiau er enghraifft Nyrsio a Deintyddiaeth
- Mae sawl gyrfa a chyrsiau lefel uwch yn gofyn i chi gael pynciau a graddau penodol
4. Ydw i angen Saesneg/Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth?
Dyma'r pynciau sydd ei angen fwyaf ar mewn gyrfaoedd, cyrsiau a gan gyflogwyr. Mae mwy a mwy o swyddi, prentisiaethau a chyrsiau yn gofyn am radd C neu hyd yn oed B yn y pynciau hyn.
Er enghraifft, i hyfforddi fel athro uwchradd yng Nghymru, mae angen TGAU gradd C mewn mathemateg neu mathemateg-rhifedd ac C mewn naill ai Cymraeg iaith neu Saesneg iaith. I addysgu mewn ysgo gynradd byddwch hefyd angen gradd C mewn gwyddoniaeth.
Cael gwybodaeth am gymwysterau.
Dewch o hyd i'r cyrsiau neu bynciau sy'n arwain at gyrfa eich dyfodol. Edrychwch ar:
- Gwybodaeth am Swyddi - Edrych ar y pynciau a'r cymwysterau sydd ei angen ar gyfer swyddi penodol
- Chwilio am Gwrs - Chwilio am gyrsiau a gofynion mynediad (dolen Saesneg)
- UCAS (dolen Saesneg)- Edrychwch ar gofynion mynediad cyrsiau Addysg Uwch sydd o ddiddordeb i chi
5. Beth os nad wyf yn gwybod pa yrfa rwyf am ei gwneud?
Efallai nad ydych chi'n gwybod eto pa yrfa rydych chi am ei gwneud ond efallai bod gennych chi ddiddordeb mewn diwydiant penodol. Os felly, dewiswch y pynciau sydd fwyaf perthnasol i'r diwydiant hwnnw. Er enghraifft, os oes gennych ddiddordeb yn:
- Y diwydiant iechyd gallech astudio pynciau gwyddoniaeth, iechyd ac addysg gorfforol. Dysgwch fwy am y diwydiant Iechyd yng Nghymru ar Swyddi mewn Iechyd
- Y gwasanaethau cyhoeddus gallech astudio dyniaethau ac ieithoedd
Os ydych yn sicr eich bod am astudio yn y brifysgol, efallai yr hoffech ystyried astudio pynciau hwyluso. Dyma'r pynciau sydd eu hangen amlaf ar gyfer mynediad i gyrsiau gradd. Mae yna 8 pwnc hwyluso yn ôl prifysgolion Grŵp Russell. Fe’u gelwir yn ‘bynciau hwyluso’ oherwydd gall eu dewis ehangu eich opsiynau ar gyfer prifysgol. Dyma nhw:
- Bioleg
- Cemeg
- Llenyddiaeth Saesneg
- Daearyddiaeth
- Hanes
- Mathemateg a mathemateg bellach
- Ieithoedd modern a chlasurol
- Ffiseg
Nid yw hyn yn golygu bod llai o werth i bynciau nad ydynt wedi’u rhestru fel ‘pwnc hwyluso’. Mae eu hangen ychydig yn llai aml ar gyfer mynediad cyffredinol i gyrsiau gradd. Mae rhai pynciau nad ydynt yn bynciau hwyluso yn ofynnol yn benodol ar gyfer rhai cyrsiau, megis Cymraeg, Economeg ac Astudiaethau Crefyddol.
6. Pa bynciau fydd eu hangen ar gyfer swyddi y dyfodol?
Mae'r byd gwaith yn newid o hyd, gyda swyddi newydd yn cael eu creu drwy'r amser.
Edrychwch ar Swyddi Dyfodol Cymru a Dyfodol Gwaith yng Nghymru i ddarganfod beth allai'r galw fod am rai swyddi yn y dyfodol.
Prif awgrymiadau i gychwyn arni
Dyma'n prif awgrymiadau ar sut i gychwyn ar ddewis pynciau a chyrsiau:
Gwybod gymaint ag y gallwch
Casglwch gymaint o wybodaeth â phosibl am y pwnc neu’r cwrs. Dylech:
- Ddarganfod pa gyrsiau y gallwch eu hastudio mewn colegau a darparwyr hyfforddiant yn agos atoch chi gan ddefnyddio Chwilio am Gwrs (dolen Saesneg)
- Fynychu ddiwrnodau agored neu ymchwilio gwefan yr ysgol, coleg neu brifysgol
- Edrych ar gynnwys y cwrs. Beth fyddwch yn ei ddysgu a sut?
- Ofyn i diwtoriaid ac athrawon. Gofyn i fyfyrwyr eraill
- Feddwl am unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddoch chi. Siaradwch gyda gwasanaethau myfyrwyr i wybod am y gefnogaeth y gallent eu cynnig
- Wneud restr fer
Gofynion mynediad
Bydd rhai swyddi yn gofyn am bynciau a chymwysterau penodol felly bydd angen i chi fod yn ymwybodol o beth fydd angen ei astudio os oes syniad gyrfa gennych mewn golwg. Edrychwch ar Gwybodaeth am Swyddi i weld pa bynciau, cymwysterau neu raddau sydd eu hangen arnoch chi.
Meddwl am syniadau gyrfa
A oes gennych syniad gyrfa mewn golwg? Edrychwch mewn i'r pynciau a'r graddau sydd ei angen ar Gwybodaeth am Swyddi. Cymerwch gip ar taflenni diwydiant i ddarganfod mwy am y gwahanol ddiwydiannau yng Nghymru.
Ansicr o'r syniadau gyrfa? Rhowch gynnig ar ein Cwis Paru Gyrfa. Bydd y cwis yn paru eich sgiliau a'ch diddordebau i wahanol swyddi ac yn eich helpu i archwilio ble y gall pynciau arwain.
Cyllido eich cwrs
Unwaith i chi adael yr ysgol nid yw dysgu bob tro.
Edrychwch ar Cyllido eich astudiaethau i weld pa gyllid a chefnogaeth sydd ar gael.
Diweddarwch eich hun gyda'r benthyciadau a'r grantiau sydd ar gael ar Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Rhestur’r manteision a’r anfanteision
Y ffordd hawsaf o ddod i benderfyniad yw ysgrifennu rhestr o fanteision ac anfanteision pob opsiwn. Meddyliwch am:
- Bethau positif pob opsiwn
- Pethau negyddol pob opsiwn
- At beth y gallai pob opsiwn arwain
Ystyriwch eich rhestr a meddwl pa mor bwysig yw pob pwynt i chi. Erbyn y diwedd bydd gennych chi well syniad o beth sy’n bwysig i chi a pha opsiwn yw’r gorau.
Darllen mwy am sut i wneud penderfyniadau gyrfa da.
Siarad ag eraill
Siarad â theulu, ffrindiau, tiwtoriaid ac athrawon am eich dewisiadau. Gall trafod eich helpu chi benderfynu. Byddent yn gallu rhoi safbwynt gwahanol i chi a chynnig syniadau efallai nad ydych wedi meddwl amdanynt.
Cysylltwch hefo Gyrfa Cymru i drafod eich syniadau gyda chynghorydd gyrfa.
Archwilio syniadau gyrfa
Dod o hyd i gwrs
Gwybod mwy
Eich canllaw i ddewis cyrsiau ar ôl blwyddyn 11 gan gynnwys Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau eraill.
Deallwch lefelau cymhwyster a pham maen nhw'n bwysig. Dysgwch am gymwysterau, gan gynnwys NVQ, TGAU, BTEC, Safon Uwch, graddau a HND.