Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Beth yw clirio?

Mae prifysgolion a cholegau yn defnyddio'r Broses Glirio er mwyn llenwi unrhyw lefydd gwag sydd ar gael ar eu cyrsiau. Proses a gynhelir gan UCAS (Universities and Colleges Admissions Service) yw'r broses glirio.

Gallai'r broses glirio fod yn addas i chi os:

  • Nad oedd eich canlyniadau yr hyn yr oeddech chi’n eu disgwyl
  • Na chawsoch unrhyw gynigion (neu ddim yr oeddech am ei dderbyn)
  • Ydych chi’n gwneud cais ar ôl 30 Mehefin
  • Ydych chi wedi newid eich meddwl ac nid ydych chi eisiau mynd at eich dewis prifysgol cadarn

Dysgwch pryd mae Clirio yn digwydd a sut mae'n gweithio ar Beth yw Clirio (dolen Saesneg) ar wefan UCAS.

Darllenwch fwy ar wefan UCAS am wrthod lle a gadarnhawyd (dolen Saesneg i UCAS) gan fod angen i chi fod yn glir ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar eich cynigion a'ch opsiynau eraill.

Dyddiadau allweddol Clirio 2026

Edrychwch ar Gadarnhad a Chlirio UCAS 2026 (Saesneg yn unig) i ddod o hyd i amseroedd hanfodol ar gyfer cynghorwyr a myfyrwyr. Fe welch ddyddiadau a therfynau amser allweddol fel eich bod chi'n gwybod beth allwch chi ei wneud a phryd y dylech chi ei wneud.

Sut ydwi'n defnyddio'r Broses Glirio?

Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’r broses glirio os nad oes gennych gynnig eisoes gan brifysgol neu goleg, a bod lleoedd ar y cwrs o hyd. Mae'r broses glirio ar agor rhwng 2 Gorffennaf a 19 Hydref, 2026.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais, mae angen i chi gofrestru gydag UCAS (dolen Saesneg) a gwneud cais.

Y ffi o wneud cais yn 2026 yw £298.95. Mae rhai myfyrwyr yn gymwys i gael hepgor eu ffi ymgeisio.

Ewch i ddiwrnod Canlyniadau a Chlirio UCAS (dolen Saesneg) i ddysgu mwy am y system Glirio a sut i wneud cais.

Ar gyfer cylch 2027, y ffi ymgeisio am israddedigion a chonservatoires yw £34.50. Dysgwch fwy ar UCAS - Sut allwn ni helpu?

Sut allwn ni eich helpu?

Gall ddysgu nad ydych wedi cael lle yn eich dewis prifysgol cadarn, neu eich bod wedi newid eich meddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei wneud, achosi straen mawr. Mae'n bwysig peidio â chynhyrfu a rhuthro i wneud penderfyniad. Ond, bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud nesaf er mwyn sicrhau nad ydych chi’n colli allan ar gyfleoedd.

Efallai eich bod yn ystyried:

  • Newid cwrs
  • Dewis prifysgol wahanol
  • Cymryd blwyddyn i ffwrdd
  • Opsiynau eraill

Gall ein cynghorwyr eich helpu i wneud y dewis cywir i chi.

Mae pawb yn wahanol. Gall ein cynghorwyr gyrfaoedd eich helpu i edrych ar eich opsiynau a meddwl am beth i'w wneud nesaf. Byddant yn gwrando ar eich sefyllfa ac yn rhoi cefnogaeth i chi sy'n diwallu eich anghenion.

Nid yw Clirio yn ymwneud â dod o hyd i unrhyw gwrs yn unig. Mae'n ymwneud â dewis cwrs a lle sy'n iawn i chi a'ch dyfodol.

Cael cymorth

Paratoi ar gyfer y Broses Glirio

Dyma ein prif awgrymiadau:

  • Siarad ag un o'n cynghorwyr, eich athrawon, tiwtoriaid neu bennaeth y chweched dosbarth. Gallant eich helpu i ystyried a chynllunio eich camau nesaf. Mae ganddyn nhw brofiad o'r broses Clirio
  • Cofiwch fod prifysgolion a cholegau eisiau myfyrwyr. Bydd timau derbyn yn hapus i helpu
  • Chwilio a gweld lleoedd gwag drwy’r broses glirio ar safle UCAS (dolen Saesneg). Mae nifer o brifysgolion yn dechrau hysbysebu eu lleoedd gwag o fis Gorffennaf ymlaen
  • Mae gan UCAS offeryn paru Clirio (dolen Saesneg) i'ch helpu i ddod o hyd i'ch cwrs delfrydol
  • Edrychwch ar brif gynghorion UCAS ar gyfer galw prifysgolion yn ystod y broses glirio (dolen Saesneg)

Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwneud cais i'r brifysgol

Beth sydd angen ichi ei wybod am wneud cais i brifysgol, dyddiadau cau, y cais, profion derbyn a rhagor. 

Blwyddyn i ffwrdd

Cewch wybod a ydy blwyddyn i ffwrdd yn addas i chi, a gweld ein rhestr o bethau i'w hystyried. Darllenwch enghreifftiau o sut mae treulio blwyddyn i ffwrdd. 

Opsiynau yn 18

Eisiau meddwl eto am eich opsiynau? Cymerwch olwg ar eich holl opsiynau yn 18.