Awgrymiadau i gwblhau datganiad personol ar eich cais am swydd. Darllenwch enghraifft o ddatganiad personol i gael syniadau.
Ar gyfer ceisiadau, mae adran datganiad personol (a elwir weithiau yn ddatganiad ategol) fel arfer yn flwch gwag yn gofyn i chi ysgrifennu am eich sgiliau, cryfderau, profiad ac egluro pam eich bod yn iawn ar gyfer y swydd.
Gall y datganiad personol fod yn un o rannau pwysicaf eich cais.
Dilynwch y cyfarwyddiadau
Mae'r ffurflen gais fel arfer yn rhoi rhai cyfarwyddiadau ar gwblhau'r datganiad personol. Weithiau bydd yn cynnwys awgrymiadau a chyngor ar gyfer cwblhau'r adran. Darllenwch y rhain yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu dilyn.
Mae'n bwysig cadw o fewn y terfyn geiriau os oes yna un.
Amlygwch eich sgiliau
Darllenwch y swydd-ddisgrifiad i ddysgu pa sgiliau y mae'r cyflogwr yn gofyn amdanynt.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch bywyd sy'n profi bod gennych y sgiliau cywir. Gallai enghreifftiau fod o:
- Cyflogaeth
- Ysgol
- Coleg
- Addysg
- Profiad gwaith
- Hobïau
- Gwirfoddoli
Enghreifftiau a diffiniadau o sgiliau cyffredin
Mae llawer o gyflogwyr yn gofyn am sgiliau cyffredinol (a elwir hefyd yn sgiliau cyffredin neu sgiliau meddal). Gwnewch yn siŵr eich bod yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani.
Isod mae rhai sgiliau a syniadau cyffredin ar gyfer enghreifftiau i'w defnyddio yn eich datganiad personol.
Sgiliau cyfathrebu
- Pryd gwnaethoch chi siarad â phobl eraill i egluro rhywbeth iddyn nhw, ac fe wnaethon nhw ddeall yn glir?
- Pryd gwnaethoch chi wrando'n dda a dangos agwedd ofalgar?
- Pryd gwnaethoch chi ddefnyddio sgiliau ysgrifennu i gyfleu gwybodaeth yn glir?
Gwaith tîm
- Ydych chi wedi bod mewn grŵp, neu mewn tîm chwaraeon lle bu'n rhaid i chi gydweithio?
- Sut oeddech chi'n teimlo am weithio mewn tîm?
- Beth oedd eich rôl chi yn y tîm?
- Pa gyfraniad wnaethoch chi i'r tîm?
Dibynadwyedd
- Allwch chi ddisgrifio sefyllfa pan wnaethoch chi sicrhau eich bod yn brydlon, a’ch bod yn mynychu'n rheolaidd? (Gallai hyn olygu ysgol, coleg, gwirfoddoli, clwb, neu swydd)
- Oes gennych chi enghraifft o adeg pan wnaethoch chi aros i weithio ar rywbeth nes oedd popeth yn iawn?
Gwaith caled
- Beth ydych chi'n gweithio'n galed i'w gyflawni?
- Pa nod ydych chi wedi'i osod i chi'ch hun ac wedi ei gyflawni?
Y gallu i ddysgu sgiliau newydd
- Pa sgiliau newydd ydych chi wedi'u dysgu?
- Beth ydych chi'n ei fwynhau am ddysgu sgiliau newydd?
- Pryd wnaethoch chi ysgogi eich hun i ddysgu rhywbeth newydd?
Y gallu i addasu
- Sut ydych chi wedi dangos eich bod wedi bod yn barod i ddysgu sgiliau newydd?
- Allwch chi ddisgrifio amser pan gwnaethoch chi addasu i newidiadau yn llwyddiannus?
- Pryd oeddech chi'n hyblyg wrth helpu rhywun allan ar fyr rybudd?
- Oes gyda chi agwedd gadarnhaol wrth addasu i newid?
Sgiliau trefnu
- Pryd wnaethoch chi gynllunio a pharatoi ar gyfer rhywbeth a weithiodd yn dda?
- Sut wnaethoch chi drefnu pethau?
Datrys problemau
- Pryd wnaethoch chi ddod ar draws problem ac yna llwyddo i ddod o hyd i ateb?
- Sut deimlad oedd dod o hyd i ateb i broblem roeddech chi’n ei hwynebu?
Talu sylw i fanylion (yn seiliedig ar fanylion)
- Allwch chi ddisgrifio amser pan wnaethoch chi roi sylw manwl i fanylion? Beth wnaethoch chi a sut wnaeth hynny eich helpu i wneud gwaith da?
Aml-dasgio
- Pryd ydych chi wedi llwyddo i reoli mwy nag un dasg ar yr un pryd?
- Beth oedd y tasgau, a sut wnaethoch chi lwyddo i'w cyflawni’n brydlon?
Sgiliau a chryfderau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt
Archwiliwch y sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau am fwy o sgiliau.
Disgrifiwch eich profiad gwaith perthnasol
Byddwch yn benodol. Edrychwch ar y disgrifiad swydd a defnyddiwch enghreifftiau sy'n berthnasol. Gallech gynnwys pethau fel:
- Beth ydych chi’n ei wneud ar ddiwrnod arferol yn eich gwaith, profiad gwaith neu waith gwirfoddol?
- Pa feddalwedd TG, peiriannau neu offer technegol ydych chi wedi’u defnyddio? Sut wnaethoch chi eu defnyddio yn eich swydd?
- Pa sgiliau newydd ydych chi wedi dysgu i’w gwneud o’ch gwaith, profiad gwaith neu waith gwirfoddol?
Enghraifft o ddatganiad personol
Datganiadau personol ar gyfer CV
Mae CV fel arfer yn cynnwys proffil personol neu ddatganiad personol.
Ar gyfer CV, datganiad personol yw'r crynodeb byr o'ch prif sgiliau a chryfderau. Fel arfer dyma'r adran gyntaf ar ôl eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt.
Cael awgrymiadau ar adeiladu CV.
Datganiadau Personol Arbenigol
Fel arfer, mae ffurflenni cais UCAS yn gofyn am ddatganiad personol manwl fel rhan o'ch cais.
(Mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Awgrymiadau ar sut i lunio cais er mwyn cael cyfweliad.
Darganfyddwch sut i wneud cyfweliad da gan ddefnyddio techneg STAR a chael cyngor cyfweliad ac awgrymiadau paratoi.
Archwiliwch y prif gwestiynau cyfweliad ac atebion enghreifftiol gan ddefnyddio'r technegau STAR a SET.
Dysgwch sut i greu eich CV, dysgwch beth i'w gynnwys yn eich CV, edrychwch ar ein templedi CV am ddim, a lawrlwythwch ein Canllaw i ysgrifennu CV.