Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan ac yn gwerthfawrogi adborth ein cwsmeriaid. Os gwelwch yn dda cwblhewch yr Arolwg Cwsmer (bydd y ddolen yma yn eich tywys i safle allanol). Ni ddylai'r arolwg hwn gymryd mwy na 5 munud i'w gwblhau.

Mae’n bryd i wneud cais am gyllid myfyrwyr

Ydych chi’n mynd i’r brifysgol neu’r coleg yn 2024/25?
Os felly, mae'n bryd meddwl am wneud cais am gyllid myfyrwyr.

Pan fyddwch chi’n astudio, bydd dwy brif gost gennych chi, ffioedd dysgu a chostau byw.
Gallwch chi wneud cais am amrywiaeth o gyllid myfyrwyr i’ch helpu chi gyda’r ddwy gost.

Dyddiadau cau

13 Mawrth 2024
Cyllid Myfyrwyr Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau
31 Mai 2024
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr newydd
28 Mehefin 2024
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n parhau gyda astudio

Os yr ydych yn gwneud cais ar ôl y dyddiad cau ni fydd sicrwydd y byddwch yn cael eich arian wedi ei dalu i’ch cyfrif banc ar gyfer dechrau’r tymor felly rydym yn argymell i chi wneud cais cyn gynted â phosib os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn.

Mae’r holl geisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor ar gyfer myfyrwyr newydd ac sy’n parhau. Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i wneud cais.


Dechrau arni

Cyllid ar gyfer prifysgol

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu. 


Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Mynd i brifysgol

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Dyddiau agored mewn prifysgolion

Dysgwch am bwysigrwydd diwrnodau agored i ddewis prifysgol. Cewch yr awgrymiadau gorau am baratoi at ddiwrnodau agored a beth i'w wneud ar y dydd.

Opsiynau yn 18

Cewch wybod pa ddewisiadau gyrfa sydd gennych ar ôl ichi adael yr ysgol neu'r coleg.