Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Aros. Paid rhoi'r gorau iddi yn y coleg a'r chweched dosbarth

Person ifanc ar ffon. Aros. Paid rhoi'r gorau iddi.Ddim yn siwr os wyt wedi dewis y pwnc neu gwrs cywir? Gad i ni siarad am dy opsiynau

Wedi dechrau'r coleg neu'r chweched dosbarth ond yn meddwl tybed oes wyt ti wedi gwneud y penderfyniad cywir? Aros. Paid rhoi'r gorau iddi.

Cymera dy amser

Dylet ti gymryd dy amser i:

  • Ddeall pam dy fod yn cael amheuon. Ai amgylchedd y coleg / ysgol ydyw neu'r cwrs?
  • Meddwl sut mae mynychu'r cwrs yn gwneud i ti deimlo. Wyt ti'n anhapus neu wedi diflasu ar y cwrs yn unig?
  • Ystyried yr effaith o adael cwrs. A fyddai gadael y cwrs yn effeithio ar dy nod gyrfa?

Gall Gyrfa Cymru helpu

Gall ein Cynghorwyr Gyrfa:

  • Siarad â ti am yr opsiynau sydd ar gael
  • Gwrando ar dy bryderon a dy helpu gyda beth i'w wneud nesaf
  • Cynnig cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ti

Edrych ar y fideos

Aros. Paid rhoi'r gorau iddi

Gwrandewch ar gyngor gan ein Cynghorydd Gyrfaoedd cyn i chi ystyried rhoi’r gorau i’r chweched dosbarth.

 
 
 

 
Dangos trawsgrifiad

Aros. Paid rhoi'r gorau iddi yn y coleg

Ceisiwch gyngor gan ein Cynghorydd Gyrfa cyn i chi feddwl am adael y coleg

Dangos trawsgrifiad

Straeon go iawn

Stori Ben I

Gyda chymorth wedi’i deilwra, daeth Ben o hyd i’r cwrs coleg cywir ac mae’n teimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol.

Stori Lowri

Helpodd cymorth gyrfa Lowri i wneud dewis hyderus ynglŷn â'i chamau nesaf.

Stori Kordy

Cymorth gyrfa yn helpu Kordy i ddewis y cwrs coleg cywir

Cefnogaeth i rieni

Archwilio dy syniadau gyrfa