Ai'r hyn y gallech chi ennill yw un o flaenoriaethau eich gyrfa? Mae rhai gyrfaoedd yn cynnig llwybrau prentisiaeth a allai arwain at swyddi â chyflog uwch ar ôl i chi gymhwyso ac ennill profiad.
Mantais gwneud prentisiaeth yw eich bod chi'n ennill cyflog wrth i chi hyfforddi. Yn y rhan fwyaf o brentisiaethau nid oes ffioedd cwrs i'w talu chwaith. Dysgwch fwy am brentisiaethau.
Mae'n bwysig cofio y bydd yr hyn rydych chi'n ennill yn dibynnu ar ble rydych chi'n gweithio a'ch lefel o sgil a phrofiad. Ar gyfer rhai o'r gyrfaoedd isod, efallai mai nifer fach o bobl sy'n ennill y cyflogau uwch. Bydd yna hefyd bobl sy'n cwblhau prentisiaethau mewn meysydd eraill ac yn ennill cyflog uchel.
Technolegau Digidol TGCh
| Teitl y Swydd | Gallai'r rhai sydd ar y cyflog uchaf ennill: | 
|---|---|
| Ymgynghorydd Seiberddiogelwch | £93,000 | 
| Peiriannydd Cyfrifiadurol | £70,000 | 
| Peiriannydd Rhwydwaith | £70,000 | 
| Datblygydd Meddalwedd | £60,000 | 
Cyllid a Chyfrifeg
| Teitl y Swydd | Gallai'r rhai sydd ar y cyflog uchaf ennill: | 
|---|---|
| Archwilydd | £80,000 | 
| Actiwari | £65,000 | 
| Cyfrifydd | £52,000 | 
| Cynghorydd Treth | £47,500 | 
Peirianneg
| Teitl y Swydd | Gallai'r rhai sydd ar y cyflog uchaf ennill: | 
|---|---|
| Peiriannydd Sifil | £70,000 | 
| Peiriannydd Cemegol | £65,000 | 
| Peiriannydd Modur | £60,000 | 
| Peiriannydd Trydanol | £60,000 | 
| Peiriannydd Roboteg | £60,000 | 
| Technegydd Peirianneg | £50,000 | 
Adeiladu
| Teitl y Swydd | Gallai'r rhai sydd ar y cyflog uchaf ennill: | 
|---|---|
| Syrfëydd Meintiau | £70,000 | 
| Plastrwr | £52,000 | 
| Plymwr | £50,000 | 
| Saer | £48,000 | 
Llwybrau gyrfa eraill
| Teitl y Swydd | Gallai'r rhai sydd ar y cyflog uchaf ennill: | 
|---|---|
| Rheolydd Cadwyn Gyflenwi | £65,000 | 
| Cogydd | £55,000 | 
| Partner Busnes Adnoddau Dynol | £52,000 | 
Yn Lloegr mae bellach yn bosibl gwneud prentisiaeth yn y gyfraith sy'n arwain at ddod yn gyfreithiwr. Nid yw prentisiaethau yn y gyfraith ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallai cyfreithwyr ar gyflog uchel ennill £130,000.
Archwilio
 
Archwiliwch ein rhestr o gwmnïau mwy sy'n cynnig prentisiaethau yng Nghymru. Mae ystod eang o brentisiaethau gwag yn cael eu hysbysebu ar wahanol adegau o'r flwyddyn.
 
Gwybod ble i chwilio am brentisiaethau, a sut i wneud y gorau o’ch cais.
 
Dysgwch am brentisiaethau gradd yng Nghymru ac archwiliwch y cyfleoedd sydd ar gael.
 
 
 
 
