Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 11 yng Nghymru 2019

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 15 neu 16 oedd ym mlwyddyn olaf eu haddysg statudol, sef Blwyddyn 11 mewn ysgolion prif ffrwd ac ysgolion arbennig yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2019, yn cwmpasu 30,518 o ddisgyblion hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 11 yn 2019.

  • Roedd 51.1% (15,593 o unigolion) yn fechgyn a 48.8% (14,905 o unigolion) yn ferched. Dewisodd 20 disgybl (0.07%) ddisgrifio eu hunain fel ‘Arall’
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 94.1% (28,708 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos), neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 92.9% o fechgyn, 95.3% o ferched a 85.0% o ddisgyblion yn y categori 'Arall'
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 88.2 % (26,925 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • Roedd 55.0% yn parhau mewn coleg addysg bellach (14,808 o unigolion) ac roedd 45.0% o’r rhai a barhaodd mewn addysg amser llawn (12,117 o unigolion) yn parhau â’u haddysg yn yr ysgol
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (5.5 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched aros yn yr ysgol (5.5 pwynt canran yn fwy na bechgyn)
  • Ymunodd 8.1% o’r garfan (2,478 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Dewisodd mwy o fechgyn na merched ymuno â’r farchnad lafur, gwahaniaeth o 3.5 pwynt canran (9.8% o fechgyn o gymharu â 6.3% o ferched)
  • Dewisodd 3.8% (1,145 o unigolion) Hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 1.9% o’r garfan (585 o unigolion) Hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (2.8%) na merched (1%) yn y categori hwn (gwahaniaeth o 1.8 pwynt canran)
  • Dewisodd 2.5% (748 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Roedd cyfran uwch o fechgyn na merched yn y categori hwn; gwahaniaeth o 1.4 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 1.8% o’r garfan (537 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Y ffigur ar gyfer bechgyn oedd 2.0% (319 o unigolion) ac ar gyfer merched roedd yn 1.4% (216 o unigolion)
  • Roedd 46.0% (247 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent yn NEET yn gallu mynd i gyflogaeth, addysg neu hyfforddiant (yn hytrach na’r 290 (54.0%) unigolyn nad oedd yn gallu mynd i mewn i EET oherwydd salwch, beichiogrwydd, ac ati)
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 1.1% o’r garfan (350 o unigolion)
  • Roedd 0.6% (175 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 11

Siart pei yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 11. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol hynt disgyblion bl 11:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 13414 86.0 13498 90.6 13 65.00 26925 88.2
Parhau mewn Addysg Rhan-Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 29 0.2 23 0.2 1 5.0 53 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 606 3.9 537 3.6 2 10.0 1145 3.8
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith 437 2.8 147 1.0 1 5.0 585 1.9
Mewn Gwaith - Arall 486 3.1 261 1.8 1 5.0 748 2.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 319 2.0 216 1.4 2 10.0 537 1.8
Heb ymateb i'r arolwg 206 1.3 144 1.0 0 0.0 350 1.1
Wedi gadael yr ardal 96 0.6 79 0.5 0 0.0 175 0.6
Cyfanswm y cohort 15593 100.00 14905 100.0 20 100.0 30518 100.0

Addysg Llawn Amser

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n parhau mewn Addysg Llawn Amser:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau i Flwyddyn 12 yn yr Ysgol 5665 42.2 6449 47.8 3 23.1 12117 45.0
Parhau i Flwyddyn 12 mewn Colegau Addysg Bellach 7749 57.8 7049 52.2 10 76.9 14808 55.0
Cyfanswm 13414 100.0 13498 100.0 13 100.0 26925 100.0

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn Gwaith, Addysg llawn amser na Hyfforddiant seiliedig ar waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at Waith, Addysg neu Hyfforddiant Seiliedig ar Waith 146 45.8 100 46.3 1 50.0 247 46.0
Yn methu symud ymlaen at Waith, Addysg neu Hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 173 54.2 116 53.7 1 50.0 290 54.0
Cyfanswm 319 100.0 216 100.0 2 100.0 537 100.0

Ethnigrwydd

O’r rhai o gefndir lleiafrifoedd ethnig a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 92.3% (o gymharu ag 87.8% o’r rhai o gefndir gwyn).

Ymunodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn â’r amrywiol gategorïau yn y farchnad lafur (8.6%) o gymharu â’r rhai o leiafrifoedd ethnig (3.5%).

Roedd cyfran uwch o bobl ifanc NEET yn hanu o gefndiroedd gwyn (1.8% neu 442 o unigolion) o gymharu ag unigolion o leiafrifoedd ethnig (1.2% neu 24 o unigolion).

Tabl yn dangos hynt disgyblion yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 21394 87.8 1789 92.3 3742 89.1 26925 88.2
Parhau mewn Addysg Ran Amser (Llai na 16 awr) 42 0.2 4 0.2 7 0.2 53 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 961 3.9 34 1.8 150 3.6 1145 3.8
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn gwaith 509 2.1 15 0.8 61 1.5 585 1.9
Cyflogedig - Arall 623 2.6 19 1.0 106 2.5 748 2.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 442 1.8 24 1.2 71 1.7 537 1.8
Heb ymateb i'r arolwg 283 1.2 26 1.3 41 1.0 350 1.1
Wedi gadael yr ardal 123 0.5 28 1.4 24 0.6 175 0.6
Cyfanswm y garfan 24377 100.0 1939 100.0 4202 100.0 30518 100.0
% o'r garfan gyfan   79.9   6.4   13.8   100.00

Gweld grwpiau blwyddyn eraill