Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 13 yng Nghymru 2019

Crynodeb

Mae’r ffigurau ar gyfer disgyblion 17 neu 18 oed a oedd yn ail flwyddyn y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2019, yn cwmpasu 10,574 o ddisgyblion a oedd yn cwblhau Blwyddyn 13 yn 2019, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 13 ar gyfer 2019.

  • Roedd 46.0% yn fechgyn a 53.9% yn ferched
  • Aeth 78.4% o’r garfan (8,286 o unigolion) ymlaen i ryw fath o drefniant dysgu parhaus neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd cyfran uwch o garfan y merched yn y categori hwn (80.0%) o gymharu â’r bechgyn, sef 76.4%
  • Dewisodd 75.6% o’r garfan (7992 o unigolion) barhau mewn addysg amser llawn. O’r rheini, aeth 81.1% (6,482 o unigolion) ymlaen i addysg uwch. Roedd hyn yn 61.3% o gyfanswm y garfan
  • Aeth canran sylweddol uwch o ferched (8.9 pwynt canran yn fwy) ymlaen i addysg uwch o gymharu â bechgyn h.y. 65.4% o gyfanswm carfan y merched a 56.5% o gyfanswm carfan y bechgyn
  • O’r rhai a ddewisodd barhau ag addysg uwch, dewisodd canran is, sef 6.7% (538 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol o gymharu â 10.8% (863 o unigolion) a barhaodd â’u haddysg mewn coleg addysg bellach. Roedd canran carfan y bechgyn a oedd yn parhau â’u haddysg amser llawn naill ai yn yr ysgol neu’r coleg yn uwch o gymharu â’r merched (21.2 % a 14.6% yn y drefn honno)
  • Dywedodd 1.4% (109 o unigolion) o’r rhai a oedd yn parhau mewn addysg eu bod am gymryd blwyddyn i ffwrdd gyda’r nod o fynd ymlaen i addysg uwch y flwyddyn ganlynol
  • Parhau mewn addysg ran-amser (16 awr yr wythnos neu lai) oedd y llwybr lleiaf poblogaidd sef 0.2% o’r garfan (16 o unigolion)
  • Ymunodd 11.7 % (1240 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle. Aeth 9.1% (962 o unigolion) i gyflogaeth y tu allan i hyfforddiant a gefnogir gan y Llywodraeth, 1.3 pwynt canran yn fwy o fechgyn nag o ferched
  • Dewisodd cyfran fach o’r garfan, sef 0.3% (27 o unigolion) Hyfforddiant yn y gweithle heb statws cyflogedig
  • Dewisodd 2.4% (251 o unigolion) ddysgu yn seiliedig ar waith gyda statws cyflogedig. Dewisodd canran uwch o fechgyn (3.5%) y llwybr hwn o gymharu â merched (1.5%)
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 2.5% o’r garfan (269 o unigolion) mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Roedd canran uwch o fechgyn, sef 3.1% (152 o unigolion) yn y categori hwn o gymharu â merched 2.0% (116 o unigolion)
  • Roedd 0.4% (46 o unigolion) o’r garfan wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Blwyddyn 13

Siart pei yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 13:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanwswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 3530 72.5 4461 78.2 1 50.0 7992 75.6
Parhau Mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 8 0.2 8 0.1 0 0.0 16 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws diwaith 14 0.3 13 0.2 0 0.0 27 0.3
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Mewn Gwaith 168 3.5 83 1.5 0 0.0 251 2.4
Mewn Gwaith - Arall 478 9.8 484 8.5 0 0.0 962 9.1
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant Na Gwaith 152 3.1 116 2.0 1 50.0 269 2.5
Heb ymateb i'r arolwg 497 10.2 514 9.0 0 0.0 1011 9.6
Wedi gadael yr ardal 21 0.4 25 0.4 0 0.0 46 0.4
Cyfanswm y cohort 4868 100.0 5704 100.0 2 100.0 10574 100.0

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Symud ymlaen at Flwyddyn 14, ysgolion 11-18 304 8.6 234 5.2 0 0.0 538 6.7
Gadael yr ysgol ym Mlwyddyn 13 a symud ymlaen at Goleg Addysg Bellach 445 12.6 418 9.4 0 0.0 863 10.8
Blwyddyn 13 yn parhau mewn Addysg Uwch (AU) 2749 77.9 3732 83.7 1 100.0 6482 81.1
Blwyddyn 13 yn cymryd Blwyddyn i Ffwrdd gan fwriadu symud ymlaen at AU 32 0.9 77 1.7 0 0.0 109 1.4
Cyfanswm 3530 100.0 4461 100.0 1 100.0 7992 100.0

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddus nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig ar waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant yn seiliedig ar waith i bobl ifanc 121 79.6 89 76.7 1 100 211 78.4
Yn methu symud ymlaen at addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 31 20.4 27 23.3 0 0.0 58 21.6
Cyfanswm 152 100.0 116 100.0 1 100.0 269 100.0

Ethnigrwydd

O’r rhai a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd y dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 82.6%. Roedd hyn yn cymharu â 75% ar gyfer unigolion o gefndir gwyn.

Dewisodd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (gwahaniaeth o 4.7 pwynt canran) waith tu allan i hyfforddiant a noddir gan y Llywodraeth (9.5% o gefndir gwyn o gymharu 4.8% o leiafrifoedd ethnig).

Roedd gwahaniaeth o 1.8 pwynt canran rhwng grwpiau cefndir gwyn a lleiafrifoedd ethnig a ddewisodd Hyfforddiant yn y gweithle - statws cyflogedig (y naill yn 2.5% a’r llall yn 0.7%).

Roedd cyfran y bobl ifanc o gefndir lleiafrifoedd ethnig a oedd yn NEET yn is na chyfran y rhai o gefndir gwyn (2.0% o gymharu â 2.6%). Mae hyn yn cyfateb i 249 o unigolion o gefndir gwyn a 17 o unigolion o leiafrifoedd ethnig.

Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 13 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:

  Grwpiau gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Amser Llawn 7243 75.0 688 82.6 61 74.4 7992 75.6
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (Llai na 16 awr yr wythnos) 14 0.1 2 0.2 0 0.0 16 0.2
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws diwaith 27 0.3 0 0.0 0 0.0 27 0.3
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn gwaith 242 2.5 6 0.7 3 3.7 251 2.4
Mewn gwaith - Arall 917 9.5 40 4.8 5 6.1 962 9.1
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 249 2.6 17 2.0 3 3.7 269 2.5
Anhysbys 931 9.6 71 8.5 9 11.0 1011 9.6
Wedi gadael yr ardal 36 0.4 9 1.1 1 1.2 46 0.4
Cyfanswm y cohort 9659 100.0 833 100.0 82 100.0 10574 100.0
% o'r cohort cyfan   91.3   7.9   0.8   100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill