Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt Disgyblion Blwyddyn 12 yng Nghymru 2019

Crynodeb

Mae’r ffigurau hyn ar gyfer disgyblion 16 neu 17 oed a oedd ym mlwyddyn gyntaf y chweched dosbarth mewn ysgolion. Roedd yr arolwg, sy’n dangos hynt y disgyblion ar 31 Hydref 2019, yn cwmpasu 12,111 o ddisgyblion, hynny yw carfan hynt disgyblion Blwyddyn 12 yn 2019.

  • Roedd 46.4% (5,617 o unigolion) yn fechgyn a 53.6% (6,490 o unigolion) yn ferched
  • Aeth y rhan fwyaf o’r garfan, 94.3% (11,417 o unigolion), i ryw fath o drefniant dysgu parhaus ar ffurf addysg amser llawn, addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) neu hyfforddiant yn y gweithle. Roedd hyn yn cynrychioli 93.3% o fechgyn a 95.1% o ferched
  • Arhosodd y rhan fwyaf o’r garfan, 92.8 % (11,240 o unigolion) mewn addysg amser llawn
  • Dewisodd 90.2% o’r rhai a arhosodd mewn addysg amser llawn (10,140 o unigolion) barhau â’u haddysg yn yr ysgol a 9.8% mewn coleg addysg bellach (1,100 o unigolion)
  • Dewisodd cyfran uwch o fechgyn (2.1 pwynt canran yn fwy na merched) barhau â’u haddysg mewn colegau addysg bellach
  • Dewisodd cyfran uwch o ferched aros yn yr ysgol (2.1 pwynt canran yn fwy na bechgyn)
  • Ymunodd 3.9% o’r garfan (468 o unigolion) â’r farchnad lafur, naill ai drwy gael swydd neu hyfforddiant yn y gweithle. Y gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched a oedd yn dewis ymuno â’r farchnad lafur oedd 1.0 pwynt canran (4.4% Bechgyn a 3.4% Merched)
  • Dewisodd 0.7% (80 o unigolion) Hyfforddiant yn y gweithle gyda statws anghyflogedig
  • Dewisodd 0.7% o’r garfan (88 o unigolion) Hyfforddiant yn y gweithle gyda statws cyflogedig. Roedd cyfran uwch o fechgyn (0.8%) na merched (0.6%) yn y categori hwn
  • Dewisodd 2.5% (300 o unigolion) waith heb gymorth ariannol gan y Llywodraeth. Y gwahaniaeth rhwng bechgyn (2.8%) a merched (2.2%) a oedd yn dewis y llwybr hwn oedd 0.6 pwynt canran
  • Ar ddyddiad yr arolwg, roedd yn hysbys nad oedd 0.8% o’r garfan (99 o unigolion), mewn unrhyw fath o addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET). Y ffigur ar gyfer bechgyn oedd 1.1% (61 o unigolion) ac ar gyfer merched roedd yn 0.6% (38 o unigolion)
  • Llwyddodd 57.6% (57 o unigolion) o’r rhai y mae’n hysbys nad oeddent mewn unrhyw fath o addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) i gael addysg, gwaith neu hyfforddiant (EET)
  • Ni lwyddodd 42.4% (42 o unigolion) o’r rhai a oedd yn NEET i fynd ymlaen i addysg, gwaith neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati
  • Ni chafwyd ymateb i’r arolwg gan 2.2% o’r garfan (268 o unigolion)
  • Roedd 0.2% (27 o unigolion) wedi gadael eu hardal leol

Ffigyrau Cyffredinol Bl 12

Siart pei yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12. Mae'r holl ddata yn y tabl isod
Tabl yn dangos ffigyrau cyffredinol blwyddyn 12:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser 5147 91.6 6089 93.8 4 100.0 11240 92.8
Parhau mewn Addysg Rhan Amser (llai na 16 awr yr wythnos) 4 0.1 5 0.1 0 0.0 9 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-waith 42 0.7 38 0.6 0 0.0 80 0.7
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn Gwaith 46 0.8 42 0.6 0 0.0 88 0.7
Mewn Gwaith - Arall 157 2.8 143 2.2 0 0.0 300 2.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 61 1.1 38 0.6 0 0.0 99 0.8
Heb ymateb i'r arolwg 149 2.7 119 1.8 0 0.0 268 2.2
Wedi gadael yr ardal 11 0.2 16 0.2 0 0.0 27 0.2
Cyfanswm yn y cohort 5617 100.0 6490 100.0 4 100.0 12111 100.00

Addysg Amser Llawn

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb sy'n aros mewn Addysg Amser Llawn:
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Ymlaen i Flwyddyn 13 yn yr ysgol 4586 89.1 5551 91.2 3 75.0 10140 90.2
Ymlaen i Flwyddyn 13 mewn coleg Addysg Bellach 561 10.9 538 8.8 1 25.0 1100 9.8  
Cyfanswm 5147 100.0 6089 100.0 4 100.0 11240 100.0

Dim mewn Gwaith, Addysg a Hyfforddiant

Tabl yn dangos dadansoddiad o bawb y gwyddys nad ydynt mewn gwaith, addysg llawn amser na hyfforddiant seiliedig at waith (i bobl ifanc):
  Bechgyn % Merched % Arall % Cyfanswm %
Yn gallu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant seiliedig ar waith 40 65.6 17 44.7 0 0.0 57 57.6
Yn methu symud ymlaen at waith, addysg neu hyfforddiant oherwydd salwch, beichiogrwydd ac ati 21 34.4 21 55.3 0 0.0 42 42.4
Cyfanswm 61 100.0 38 100.0 0 0.0 99 100.0

Ethnigrwydd

O’r rhai a roddodd wybodaeth am ethnigrwydd dewis mwyaf poblogaidd ym mhob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg amser llawn sef 93.5%. Mae hyn yn uwch na’r gyfran ar gyfer y rhai o gefndir gwyn (93.0%).

Y llwybr lleiaf poblogaidd ar gyfer pob grŵp lleiafrifoedd ethnig oedd parhau mewn addysg ran-amser (16 awr yr wythnos neu lai); nid oedd yr un unigolyn wedi dewis y llwybr hwn. Y llwybr hwn oedd y dewis lleiaf poblogaidd ymysg y rhai o gefndir gwyn hefyd (9 o unigolion).

Roedd canran uwch o’r rhai o gefndir gwyn (gwahaniaeth o 0.7 pwynt canran) yn y categori cyflogedig, sef 2.6% o gefndir gwyn o gymharu ag 1.8% o leiafrifoedd ethnig.

Mae’r ffigwr NEET ar gyfer y rhai o gefndiroedd gwyn yn uwch na’r rhai o leiafrifoedd ethnig (0.8% a 0.5% yn y drefn honno).

Tabl yn dangos hynt disgyblion blwyddyn 12 yn ôl % gwyn, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a dim gwybodaeth am ethnigrwydd:
  Gwyn % Grwpiau lleiafrifoedd ethnig % Dim gwybodaeth am darddiad ethnig % Cyfanswm %
Parhau mewn Addysg Llawn Amser (ysgolion a cholegau) 10079 93.0 1026 93.5 135 78.9 11240 92.8
Parhau mewn Addysg Ran Amser (llai na 16 awr yr wythnos) 9 0.1 0 0.0 0 0.0 9 0.1
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws Di-Waith 72 0.7 8 0.7 0 0.0 80 0.7
Hyfforddiant Seiliedig ar Waith - Statws mewn Gwaith 84 0.8 4 0.4 0 0.0 88 0.7
Cyflogedig - Arall 278 2.6 20 1.8 2 1.2 300 2.5
Nad ydynt mewn Addysg, Hyfforddiant na Gwaith 89 0.8 6 0.5 4 2.3 99 0.8
Heb ymateb i'r arolwg 211 1.9 30 2.7 27 15.8 268 2.2
Wedi gadael yr ardal 21 0.2 3 0.3 3 1.8 27 0.2
Cyfanswm y garfan 10843 100.0 1097 100.0 171 100.0 12111 100.0
% o'r garfan gyfan   89.5   9.1   1.4   100.0

Gweld grwpiau blwyddyn eraill