Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Hynt disgyblion 2019

Mae arolwg blynyddol Gyrfa Cymru o’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol, a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi ciplun defnyddiol o hynt disgyblion, gan gynnig gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.

Mae arolwg blynyddol Gyrfa Cymru o’r rhai sydd wedi gadael yr ysgol, a gynhelir ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi ciplun defnyddiol o hynt disgyblion, gan gynnig gwybodaeth i staff gyrfaoedd wrth weithio gyda chleientiaid, rhieni, athrawon a chyflogwyr.

Lluniwyd yr arolwg hwn o ddata a ddarparwyd gan Gyrfa Cymru, ac mae’n edrych ar ba lwybrau dilyniant a ddewiswyd gan bobl ifanc o ran addysg, gwaith a hyfforddiant. Ceir dadansoddiadau pellach o ran ethnigrwydd a rhyw’r disgyblion (pan fo’r wybodaeth ar gael).

Mae’r arolwg yn adrodd ar hynt 53,203 o fyfyrwyr o ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oedran ledled Cymru. Mae’n cynnwys disgyblion sydd wedi cyrraedd yr oedran statudol i adael yr ysgol, ym Mlwyddyn 11, a disgyblion sy’n gadael yr ysgol ym Mlynyddoedd 12 a 13. Caiff disgyblion o ysgolion arbennig hefyd eu cynnwys yn yr arolwg; Nid yw’r rhai sy’n mynychu colegau AB ac ysgolion annibynnol. Bechgyn yw 49% o gyfanswm y garfan (26,078) a Merched yw 50.9% (27,099). Dewisodd 26 o’r disgyblion y categori ‘Arall’ i ddisgrifio eu rhyw. Cofnodir y wybodaeth am hynt disgyblion ar sail gweithgaredd hysbys y disgyblion ar 31 Hydref 2019.

Nid yw Gyrfa Cymru bellach yn cynnal chwiliad dwys ar gyfer y rhai nad ydynt yn ymateb i’r arolwg. Er mwyn sicrhau bod nifer y rhai nad ydynt yn ymateb i’r arolwg cyn ised ag sy’n bosibl, mae Gyrfa Cymru yn dibynnu ar sefydliadau partner i rannu gwybodaeth am gofrestriad a hynt myfyrwyr. Ar gyfer hynt carfan 2018, yn sgil cyflwyno’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), nid oedd yn bosibl cytuno ar drefniadau rhannu data gyda’r holl sefydliadau AB ledled y wlad mewn pryd i gwblhau arolwg 2018. Roedd hyn yn golygu bod nifer y rhai nad oeddent yn ymateb yn llawer uwch nag yn y blynyddoedd blaenorol. Gan nad oedd modd cymharu data hynt disgyblion 2018 â data blynyddoedd blaenorol, nid oes unrhyw sylwebaeth naratif yn yr adroddiad hwn yn 2019 yn ymwneud â data tueddiadau. Pe bai unrhyw gymariaethau’n cael eu llunio, byddent yn debygol o ddod i gasgliadau anghywir.

Noder:

  • Mae’r canrannau wedi’u talgrynnu ac felly ni fydd y cyfanswm yn 100% bob tro
  • Gallai ffigyrau cenedlaethol guddio amrywiannau ar lefel rhanbarthau, awdurdodau lleol a sefydliadau ym mhob carfan. Darperir adroddiadau sy’n dangos hynt y disgyblion fesul ardal awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r broses o ddadansoddi ar lefel leol
  • Dim ond cynrychiolaeth weledol yw’r graffigwaith ac nid yw’n fanwl gywir
Cyfyngiadau Data

Nodyn ar Ddata Tueddiadau

Rhwng 2012 a 2017 roedd modd olrhain data hynt disgyblion a nodi data tueddiadau. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn y Cyflwyniad, roedd heriau ychwanegol wrth gasglu data hynt disgyblion 2018, gyda chynnydd amlwg yn y rhai na ymatebodd i’r arolwg a hynny’n amrywio yn ôl awdurdod lleol. Oherwydd hynny, mae adroddiad eleni, fel yn achos adroddiad 2018, yn cynnwys crynodeb byr o ddata 2019; nid yw’n ceisio llunio cymhariaeth gyda’r gyfres sy’n bodoli yn ôl amser ac ni cheir sylwebaeth, felly, ar dueddiadau. Bydd y crynodeb yn cynnwys data awdurdodau lleol, ond ni fydd yn cymharu’r data gyda blynyddoedd blaenorol nac ychwaith ar draws awdurdodau.

Fodd bynnag, mae’n werth nodi mai cyfradd y rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer blwyddyn 11 yn 2019 yw 1.1% (350 o unigolion) o gymharu â 3.5% (1043 o unigolion) yn 2018 a’u cymharu â 0.5% (169 o unigolion) yn 2017. Ar gyfer blwyddyn 12 yn 2019 roedd yn 2.2% (268 o unigolion) o gymharu â 3.7% (482 o unigolion) yn 2018 a 1.6% (220 o unigolion) yn 2017. Ym mlwyddyn 13 roedd y ganran yn 9.6% yn 2019 (1011 o unigolion), 11.6% (1275 o unigolion) yn 2018 a 3.7% yn 2017 (436 o unigolion). Ac eithrio blwyddyn 13, mae’r cyfraddau’r rhai nad ydynt wedi ymateb ar gyfer 2019 wedi symud yn agosach at y lefelau a welwyd yn 2017, ond nid ydynt wedi dychwelyd i lefelau cyn-2018 hyd yn hyn.

Mae’r ffaith nad yw rhai’n ymateb yn cam-ystumio data sy’n ymwneud â rhai grwpiau gan olygu bod cymharu ar draws blynyddoedd gwahanol yn debygol o arwain at gasgliadau anghywir. Er enghraifft, mae ffigur y rhai ‘Nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant’ yn 2018 ar gyfer blwyddyn 11 yr un fath ag yr oedd yn 2017 sef 1.6% (491 o unigolion yn 2017 o’i gymharu â 476 yn 2018). Fodd bynnag, roedd canran disgyblion Blwyddyn 11 sy’n parhau mewn addysg amser llawn yn 2018 yn is o 1.9% o gymharu â 2017 (86.4% (25,626 o unigolion) o gymharu â 88.2% (27,189 o unigolion). Ynghyd â’r rhai na wnaeth ymateb i’r arolwg (cynnydd o 3%), y ddau gategori yma sy’n dangos y gwahaniaethau mwyaf ar draws y ddwy flynedd. Yn sgil absenoldeb gwybodaeth am gofrestriadau gan rai colegau AB, byddai’n rhesymol efallai ystyried bod mwyafrif y rhai na ymatebodd wedi parhau mewn addysg amser llawn yn y sector AB, ond ni allwn dybio bod hynny’n wir.

Diffiniadau

Mae’r rhan fwyaf o’r penawdau a ddefnyddir yn yr adroddiadau hynt disgyblion yn hunanesboniadol. Fodd bynnag, gall y canlynol fod o gymorth:

Addysg Bellach (AB): Addysg Bellach mewn coleg, gan gynnwys colegau Trydyddol ôl-16, yn hytrach nag mewn chweched dosbarth yn yr ysgol (blynyddoedd 12 a 13).

Hyfforddiant seiliedig ar Waith - statws anghyflogedig: Mae’n cynnwys pob hyfforddiant yn y gweithle sydd heb statws cyflogedig ond a gefnogir gan y Llywodraeth.

Hyfforddiant seiliedig ar Waith - statws cyflogedig: Mae’n cynnwys Prentisiaethau Modern a mathau eraill o hyfforddiant i weithwyr a gefnogir gan y Llywodraeth.

WBTYP: Hyfforddiant Seiliedig ar Waith i Bobl Ifanc.

Yn mynd i mewn i’r farchnad lafur: Mae’r term hwn yn cyfeirio at bob disgybl sydd â chyrchfan hyfforddiant yn seiliedig ar waith – statws anghyflogedig, hyfforddiant yn seiliedig ar waith – statws cyflogedig neu wedi’i gyflogi – arall.

Pobl nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (NEET): Mae’n cynnwys y rhai nad ydynt ar gael i weithio a’r rhai sydd wedi cofrestru’n ddi-waith gyda Gyrfa Cymru. Roedd pobl ifanc mewn addysg ran-amser (16 awr neu lai bob wythnos) yn y categori hwn o’r blaen ond fe’u cofnodir ar wahân ers 2009.

Blwyddyn i Ffwrdd: Dim ond y rhai sy’n cael blwyddyn ffurfiol i ffwrdd (h.y. y rhai sydd wedi gwneud cais i UCAS ac wedi gohirio eu lle mewn Addysg Uwch) a gynhwysir yn y ffigyrau blwyddyn i ffwrdd. Cynhwysir unigolion nad ydynt wedi mynd i Addysg Uwch, ond sy’n ystyried ymgeisio o dan gyrchfannau perthnasol eraill (fel y nodwyd ar 31 Hydref 2018).

Addysg Amser Llawn: y rhai mewn addysg am fwy nag 16 awr yr wythnos.

Addysg Rhan-amser: y rhai mewn addysg ran-amser am lai nag 16 awr yr wythnos. Roedd y rhain wedi’u cynnwys yn y categori NEET o’r blaen ond maent wedi’u cofnodi ar wahân ers 2009.

Wedi gadael yr ardal:Y rhai y gwyddys eu bod wedi gadael Cymru.

Gwyn: Cyfanswm cyfunol ar gyfer Gwyn Prydeinig; Gwyn Gwyddelig; Gwyn Arall.

Grwpiau lleiafrifoedd ethnig: Cyfanswm cyfunol ar Gyfer Gwyn Cymysg a Du Caribïaidd; Gwyn Cymysg a Du Affricanaidd; Gwyn Cymysg ac Asiaidd; Cymysg Arall, Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd; Asiaidd Arall; Caribïaidd; Affricanaidd; Du Arall; Tsieiniaidd; Grŵp Ethnig Arall.