Pobl ifanc nad ydynt mewn Addysg, Gwaith na Hyfforddiant (NEET)
- Yn 2019, roedd 905 o bobl ifanc a oedd yn gadael yr ysgol (Blynyddoedd 11, 12 a 13) yng Nghymru yn NEET, sef 1.7% o’r holl garfan
- Fel y blynyddoedd blaenorol, mae canran uwch o bobl ifanc NEET yng ngharfan Blwyddyn 13 (2.5% (269 unigolyn) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (1.8% - 537 unigolyn) a Blwyddyn 12 (0.8% - 99 unigolyn)
- Mae canran y cleientiaid Blwyddyn 11 nad ydynt mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, oherwydd eu bod yn gofalu am eraill, neu oherwydd beichiogrwydd yn 1.0%. Yn yr un categori, roedd canran y disgyblion Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.3% a 0.5%, yn y drefn honno
- Mae canran y merched NEET ym Mlwyddyn 11 nad oeddent yn gallu cael gwaith, addysg na hyfforddiant ychydig yn is na chanran y bechgyn (53.7% o ferched NEET a 54.2% o fechgyn NEET)
Parhau mewn Addysg Amser Llawn
- Y dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd ymhlith disgyblion ym mhob un o’r tri grŵp blwyddyn oedd parhau mewn addysg amser llawn. Dewisodd canran uwch o ferched ar draws y tair carfan i barhau mewn addysg amser llawn o gymharu â bechgyn
- O ran y rhai sy’n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11, roedd Addysg Bellach (AB) yn ddewis mwy poblogaidd na’r chweched dosbarth mewn ysgolion, a hynny o 10.0% gyda 45% yn dewis chweched dosbarth a 55% yn dewis coleg AB
- Yn 2019, o’r rhai a ddosbarthwyd yn rhai sy’n parhau mewn Addysg Amser Llawn, roedd dilyn Addysg Bellach yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn a merched. Roedd y gwahaniaeth yn fwy i fechgyn (57.8% yn mynd i AB, o’i gymharu â 42.2% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (52.2% yn mynd i AB, o gymharu â 47.8% yn aros yn yr ysgol)
Carfan | Bechgyn | Merched | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Blwyddyn 11 | 86.0% | 90.6% | 4.5 pwynt canran |
Blwyddyn 12 | 91.6% | 93.8% | 2.2 pwynt canran |
Blwyddyn 13 | 72.5% | 78.2% | 5.7 pwynt canran |
Ymhob blwyddyn, arhosodd canran uwch o’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn addysg amser llawn o gymharu â grwpiau gwyn.
Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
---|---|---|
Blwyddyn 11 | 87.8% | 92.3% |
Blwyddyn 12 | 93% | 93.5% |
Blwyddyn 13 | 75% | 82.6% |
Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant
- Roedd canran y bobl ifanc a aeth i waith a hyfforddiant gyda nawdd y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ymhlith y rhai ym Mlwyddyn 13, sef 11.7% (1240 unigolyn), ond dim ond 8.1% (2478 unigolyn) o garfan Blwyddyn 11 a 3.9% (468 unigolyn) o garfan Blwyddyn 12 a ddewisodd un o’r opsiynau hyn
- Roedd canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i weithio yn 2.5% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.5% ar gyfer Blwyddyn 12, a 9.1% ar gyfer Blwyddyn 13
- Roedd ymuno â’r farchnad lafur (naill ai Hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymysg bechgyn o gymharu â merched ar draws y 3 carfan yn 2019
- O’r rhai mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig, roedd y ganran a ymunodd â’r farchnad lafur (gwaith neu hyfforddiant yn y gweithle) yn llai o lawer o gymharu â grwpiau gwyn
Carfan | Gwyn | Lleiafrifoedd Ethnig |
---|---|---|
Blwyddyn 11 | 8.6% | 3.5% |
Blwyddyn 12 | 4.0% | 2.9% |
Blwyddyn 13 | 12.3% | 5.5% |
Cyfradd Dim Ymateb
Roedd y cyfanswm ‘Dim Ymateb’ yn 3.1%. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd ‘dim ymateb’ ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 9.6% (1011 o unigolion). Mae’r grŵp carfan hwn yn parhau i fod â’r gyfradd ‘dim ymateb’ uchaf.
Blwyddyn 11 | 1.1% |
---|---|
Blwyddyn 12 | 2.2% |
Blwyddyn 13 | 9.6% |
Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 11 o ysgolion yng Nghymru 2019.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 12 o ysgolion yng Nghymru 2019.
Gweld ffigurau cyffredinol hynt disgyblion Blwyddyn 13 o ysgolion yng Nghymru 2019.