Skip to main content
Llywodraeth Cymru
EnglishCymraeg

Cyllid i fyfyrwyr yn y brifysgol

Mae amryw o gyllid myfyrwyr i'ch helpu gyda chostau byw ac astudio yn y brifysgol.

Tra byddwch yn astudio bydd gennych ddau brif gost:

  • Ffioedd dysgu
  • Costau byw

Os ydych yn byw yng Nghymru, gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am fenthyciad ffioedd dysgu ac amrywiaeth o gyllid i helpu gyda'ch costau byw.

Mae rhagor o fanylion am bwy sy'n gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Benthyciad Ffioedd Dysgu

Codir ffioedd dysgu gan eich prifysgol neu goleg er mwyn talu am gost eich cwrs fesul blwyddyn. Yng Nghymru, mae ffioedd dysgu wedi'u capio ar £9,000 y flwyddyn, ond mewn rhannau eraill o'r DU gallech orfod talu hyd at £9,250 y flwyddyn ar gyfer cwrs israddedig llawn amser.

Gall myfyrwyr amser llawn a rhan-amser wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am fenthyciad a fydd yn talu am ffioedd dysgu’r brifysgol.

Pethau allweddol i'w gwybod:

  • Nid yw swm y Benthyciad Ffioedd Dysgu a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref
  • Fel arfer, mae’r Benthyciad Ffioedd Dysgu yn cael ei dalu’n uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg
  • Rhaid ad-dalu Benthyciadau Ffioedd Dysgu, gan gynnwys llog, ond dim ond pan fyddwch wedi gorffen eich astudiaethau ac wedi dechrau ennill cyflog y byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn.

Am ragor o wybodaeth am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu a sut i wneud cais ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru

Cyllid ar gyfer costau byw

Gall myfyrwyr o Gymru hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am gyllid i helpu gyda chostau, fel bwyd, rhent, llyfrau a chostau eraill tra byddwch yn astudio yn y brifysgol neu'r coleg, ac yn aml yn byw oddi cartref.
Mae cyllid cynhaliaeth yn cynnwys cyfuniad o:

  • Fenthyciad Cynhaliaeth
  • Grant Cynhaliaeth

Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn gallu gwneud cais am hyd at uchafswm o £11,720 o gyllid cynhaliaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023 i 2024. Os ydych yn astudio yn Llundain ac yn byw oddi cartref, gallwch wneud cais am hyd at uchafswm o £14,635.

Bydd swm y grant neu fenthyciad eich cyllid cynhaliaeth yn ddibynnol ar incwm eich cartref a ble rydych yn astudio ac yn byw.

Er enghraifft:

Os ydych yn dod o gartref incwm is (£18,370 neu lai) gallech fod yn gymwys i gael grant o £8,100 i dalu am eich costau byw, gyda’r £3,620 sy’n weddill ar ffurf benthyciad.

Gallwch ddarganfod faint o grant a/neu fenthyciad y gallech ei gael yn seiliedig ar incwm eich cartref ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Pethau allweddol i'w gwybod:

  • Rhaid ad-dalu Benthyciad Cynhaliaeth. Nid oes rhaid ad-dalu Grant Cynhaliaeth, oni bai eich bod yn gadael eich cwrs, neu os bydd eich amgylchiadau'n newid
  • Bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru yn gymwys i gael isafswm Grant Cynhaliaeth o £1000, waeth beth fo incwm eich cartref
  • Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn talu eich Benthyciad Cynhaliaeth a'ch Grant Cynhaliaeth yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc mewn 3 rhandaliad, fel arfer ar ddechrau pob tymor
  • Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael cymorth tebyg ar sail pro-rata yn seiliedig ar ba mor ddwys yw’r cwrs
  • Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hunaniaeth ac i brofi incwm eich cartref
  • Rhaid ad-dalu Benthyciadau Cynhaliaeth, a chodir llog arnoch ar eich benthyciad o'r diwrnod cyntaf y telir yr arian i'ch banc hyd nes y telir y benthyciad yn llawn neu ei ganslo

Cyllid cymorth ychwanegol

Efallai y gallwch hefyd wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru am arian ychwanegol i'ch cefnogi gyda chostau, os oes gennych anabledd neu os oes gennych gyfrifoldebau gofalu dros blant neu oedolyn. Mae rhywfaint o'r cymorth ychwanegol y gallech wneud cais amdano yn cynnwys:

  • Lwfans Myfyrwyr Anabl
  • Grant Gofal Plant i fyfyrwyr â phlant
  • Lwfans Dysgu i Rieni i fyfyrwyr â phlant
  • Grant Oedolion Dibynnol

Pethau allweddol i'w gwybod am gyllid cymorth ychwanegol:

  • Efallai y bydd angen i chi wneud cais am gyllid cymorth ychwanegol ar wahân i'ch prif gais am gyllid
  • Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i brofi eich bod yn gymwys ar gyfer unrhyw gyllid cymorth ychwanegol sydd ar gael. Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei angen gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru
  • Gellir talu cyllid ychwanegol yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu'n uniongyrchol i'r cwmni sy'n darparu eich gwasanaeth cymorth
  • Fel arfer, ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu grantiau a lwfansau cymorth ychwanegol, ond gwiriwch hyn bob tro gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru

Dysgwch fwy am gyllid cymorth ychwanegol ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dysgwch fwy am Gyllid i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau.

Ysgoloriaethau, Bwrsariaethau a Grantiau

Cofiwch wirio os oes unrhyw ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu grantiau eraill y gallech wneud cais amdanynt ar ben eich cyllid myfyrwyr.

Pethau allweddol i'w gwybod:

  • Fel arfer cynigir ysgoloriaethau ar gyfer cyflawniad neu ragoriaeth mewn cyflawniad academaidd, chwaraeon neu gerddoriaeth a phynciau creadigol eraill
  • Mae bwrsariaethau a grantiau fel arfer yn seiliedig ar incwm cartref isel neu eich amgylchiadau personol, er enghraifft, os oes gennych anabledd neu os ydych yn dod o ranbarth neu wlad benodol
  • Gall prifysgolion, colegau, cyflogwyr neu sefydliadau eraill sy'n cefnogi myfyrwyr gynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau
  • Fel arfer cynigir grantiau gan elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill
  • Nid oes angen ad-dalu'r rhan fwyaf o ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau eraill, ond gwiriwch hyn bob tro

Edrychwch ar wefan eich prifysgol neu goleg am unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau y gallech wneud cais amdanynt. Ymchwiliwch i elusennau, ymddiriedolaethau a sefydliadau eraill a all hefyd gynnig ysgoloriaethau, bwrsariaethau neu grantiau.

Dysgwch fwy am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a grantiau drwy UCAS.(dolen Saesneg)

Cyllid ar gyfer cyrsiau gwaith cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd

Gall gweithwyr gofal iechyd, athrawon a gweithwyr cymdeithasol fod yn gymwys i dderbyn cyllid ar wahân er mwyn eu cefnogi i astudio eu cyrsiau. Efallai y gallwch wneud cais am y cyllid hwn, hyd yn oed os ydych eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer cwrs israddedig yr ydych wedi'i gwblhau.

Gall y cyllid newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae'n bwysig gwirio gwefannau swyddogol y sefydliadau Cenedlaethol neu i gysylltu â hwy yn uniongyrchol am y manylion diweddaraf.

Rhagor o wybodaeth: Cyllid ar gyfer cyrsiau gofal cymdeithasol, addysgu a gofal iechyd

Cyllid i fyfyrwyr ôl-raddedig

Mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer y cyrsiau ôl-raddedig canlynol:

  • Cwrs Meistr
  • Cwrs Doethurol
  • Addysg Gychwynnol Athrawon

Am fwy o wybodaeth am gyllid ôl-raddedig, ewch i Wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Beth fydd yn rhaid i mi ei dalu'n nol?

Cofiwch, nid oes rhaid talu grantiau'n ôl ond mae rhaid talu benthyciadau'n ôl. Bydd angen i chi ad-dalu:

  • Benthyciadau Ffioedd Dysgu 
  • Benthyciad Cynhaliaeth 
  • Benthyciadau Ôl-raddedig

Ychwanegir llog at eich benthyciad o'r diwrnod cyntaf y telir yr arian i'ch cyfrif banc neu i'ch prifysgol neu goleg. Mae'n bwysig ystyried hyn cyn i chi wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu a/neu Fenthyciad Cynhaliaeth.

Pryd fydd rhaid i mi ddechrau talu'n ôl?

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr israddedig sy'n dechrau ar eu cwrs ym mlwyddyn academaidd 2023/24 ond yn dechrau ad-dalu eu benthyciadau myfyrwyr pan fyddant wedi gorffen eu hastudiaethau ac yn ennill incwm o £524 yr wythnos neu £2,274 y mis neu £27,295 y flwyddyn (cyn treth a didyniadau eraill) neu wedi gadael eu cwrs.
Mae'r trothwy incwm yn newid bob blwyddyn a gall fod ychydig yn wahanol yn dibynnu ar bryd y gwnaethoch ddechrau astudio a pha gwrs rydych yn ei astudio.

Unwaith y byddwch yn ennill incwm sy'n uwch na'r trothwy presennol, bydd yr ad-daliadau yn cael eu didynnu o'ch cyflog bob mis. Bydd y swm y byddwch yn talu yn seiliedig ar eich incwm, nid yr hyn a fenthycwyd gennych.

Rhagor o fanylion am Repaying your student loan (Gov.uk). (dolen Saesneg)

Beth yw cynllun dileu rhannol cyllid myfyrwyr Cymru?

Os ydych yn fyfyriwr llawn amser sydd wedi cymryd Benthyciad Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru gallech ddileu hyd at £1,500 o'ch Benthyciad Cynhaliaeth pan fyddwch yn dechrau ad-dalu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar hyn os ydych yn gymwys.

Rhagor o wybodaeth:Cynllun dileu cyllid myfyrwyr Cymru yn rhannol (Llyw.cymru)


Dysgwch fwy a gwnewch gais

Mae dyddiadau cau ceisiadau yn newid bob blwyddyn ond ar gyfer myfyrwyr israddedig newydd mae'r dyddiad cau yn gynnar ym mis Mai fel arfer.



Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Cyllid ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig

Dewch o hyd i’r cymorth ariannol a allai fod ar gael i chi ar gyfer cyrsiau ôl-raddedig mewn prifysgolion, gan gynnwys cyrsiau meistr a doethuriaeth.