Gall safle adeiladu fod yn lle prysur a swnllyd iawn. Mae prosiect adeiladu yn cynnwys llawer o bobl yn gwneud gwahanol swyddi.
Os ydych yn gweithio ar safle adeiladu byddech yn gweithio yn y diwydiant Adeiladu.
Mae tua 94,217 o bobl yn gweithio yn y diwydiant adeiladu yng Nghymru"
Ffynhonnell: LightcastTM, 2023
Dyma rai o'r swyddi y gallai pobl eu gwneud ar safle adeiladu:
Yr amgylchedd yw'r man lle mae'r adeiladau'n cael eu wneud. Cyn y gall prosiect ddechrau rhaid gwneud yn siwr bod y lle yn ddiogel ac yn addas i bobl ac anifeiliaid. Mae angen pobl mewn swyddi fel:
Mae llawer o swyddi eraill ym maes Adeiladu. Dysgwch fwy am Adeiladu ac ewch i GoConstruct.
Sgiliau i weithio ar safle adeiladu
Mae angen bod yn dda am wneud y canlynol:
- Gweithio gyda phobl eraill
- Gweithio yn yr awyr agored
- Dilyn cyfarwyddiadau
- Defnyddio'ch dwylo
- Gweithio ar eich pen eich hun
- Gweithio mewn lle prysur ac weithiau swnllyd
Rhinweddau i weithio ar safle adeiladu
Mae angen i chi fod yn berson sydd:
- Gyda lefel dda o ffitrwydd
- Yn gallu gweithio i derfynau amser
- Yn gweithio'n galed
Dod o hyd i swydd ar safle adeiladu
Ewch i:
- Cyflogwyr yn recriwtio nawr i weld pwy sy'n hysbysebu swyddi dan 'Adeiladu a Labro'
- Cyflogwyr Adeiladu sy'n cynnig Prentisiaethau
- Gwahanol Gwefannau Swyddi i weld pwy sy'n hysbysebu