I wneud cais am swydd, bydd rhai cyflogwyr yn gofyn am CV.
Mae CV yn ddogfen sy'n dweud wrth gyflogwr amdanoch chi fel eu bod yn gallu penderfynu a ydyn nhw eisiau eich cyfweld.
Gwyliwch y fideo
Ysgrifennu CV
Gwyliwch y fideo i wybod mwy am beth mae cyflogwyr yn hoffi ei weld mewn CV.
Beth ddylwn i ei ysgrifennu mewn CV?
Gwybodaeth amdanoch chi, fel eich:
Eich enw a manylion cyswllt fel eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost
Gwybodaeth am eich sgiliau a'ch profiadau:
Pa sgiliau sydd gennych a beth rydych chi’n gallu ei wneud yn dda. Edrych ar Sgiliau a beth maen nhw'n ei olygu
Unrhyw brofiad gwaith neu waith gwirfoddol rydych wedi’i wneud
Unrhyw waith rhan amser neu waith dros y gwyliau rydych chi wedi'i wneud
Profiad sydd gennych o helpu eraill
Enghreifftiau o beth y gallech ei ddweud mewn CV
"Byddwn yn dda am wneud y swydd hon oherwydd fy mod yn hyderus wrth siarad â phobl newydd"
"Rwy'n dda iawn am wrando ar bobl eraill a gallaf ddilyn cyfarwyddiadau'n dda"
"Rwy'n gyfeillgar ac rwy'n mwynhau cwrdd â phobl newydd. Byddwn dda yn gweithio gyda'r cwsmeriaid"
CV gwahanol ar gyfer swyddi gwahanol
A oes angen newid eich CV bob tro yr ydych yn gwneud cais am swydd?
Oes, dylech chi newid eich CV os ydych chi'n gwneud cais am wahanol fathau o swyddi.
Os ydych chi'n gwneud cais am yr un mathau o swyddi gallwch chi ddefnyddio'r un CV.
Er enghraifft, os ydych chi'n gwneud cais am swyddi mewn siop, gallwch chi ddefnyddio'r un CV.
Ond os ydych chi'n gwneud cais am wahanol swyddi, fel mewn siop, ysbyty, neu ffatri, dylech chi newid eich CV i gyd-fynd â phob swydd.
Beth yw geirda?
Mae geirda yn cael ei ysgrifennu gan berson sy'n eich adnabod chi ac sy'n gallu dweud mwy amdanoch chi wrth y cyflogwr.
Rydych chi'n ychwanegu eu henw a'u manylion cyswllt ar ddiwedd eich CV.
Meddyliwch am rywun sy'n eich adnabod chi yn dda ac sy'n gwybod pa sgiliau a rhinweddau sydd gennych chi. Gall hyn fod yn
- Athro neu Diwtor
- Cyflogwr (o swydd arall, profiad gwaith neu leoliad gwirfoddoli)
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Arweinydd Clwb Ieuenctid
- Hyfforddwr Chwaraeon
Beth yw llythyr cais?
Rydych chi'n anfon llythyr eglurhaol byr gyda'ch CV.
Mae'n dweud wrth y cyflogwr pam rydych chi'n gwneud cais ac ychydig amdanoch chi'ch hun.
Os ydych chi'n anfon eich CV mewn e-bost at gyflogwr, gellir ysgrifennu'r llythyr hwn yn yr e-bost. Yn yr e-bost mae angen i chi gynnwys:
- Eich enw
- Y swydd rydych yn ceisio amdani
- Rhai o'ch sgiliau
Cyn anfon eich CV
Gwnewch yn siwr i:
Gadw eich CV ar gyfrifiadur. Byddwch wedyn yn gallu ei newid pan fyddwch eisiau gwneud cais am wahanol swyddi
Chwilio am gamgymeriadau sillafu. Gofynnwch i athro neu aelod o’r teulu edrych arno
Os ydych am brintio y CV, gwnewch yn siŵr ei fod yn lân. Peidiwch a cholli diod arno na’i rwygo
Gwyliwch y fideo
Cymraeg yn y gweithle
Gwyliwch y fideo i wybod mwy am y Gymraeg yn y gweithle a sut mae'n yn cael ei gweld fel sgil allweddol.
Dogfennau
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Dewch i wybod sut i wneud cais am swyddi a'r wybodaeth sydd angen i'w gynnwys mewn ffurflen gais.
Dewch i wybod am y bobl a'r sefydliadau a all eich helpu i gynllunio eich dyfodol.