Efallai y gofynnir i chi wneud eich cyfweliad dros y ffôn, neu drwy alwad fideo. Mae’n ddefnyddiol gwybod sut mae’r rhain yn gweithio.
Beth yw cyfweliad ffôn a fideo?
Dyma pryd mae cyflogwr yn gofyn am gael gwneud y cyfweliad naill ai dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Mae galwad fideo fel arfer yn digwydd ar Teams, Zoom, Skype neu Facetime neu unrhyw blatfform bydd y cyflogwr yn ei ddefnyddio
Sut mae cyfweliad ffôn a fideo yn gweithio?
Fel arfer mae yna ddwy brif ffordd y gallant ddigwydd:
Cwestiynau wedi'u recordio ymlaen llaw. Bydd y cyflogwr yn rhoi'r cwestiynau i chi cyn y cyfweliad. Byddwch yn recordio eich hun yn ateb y rhain dros y ffôn neu ar fideo
Cwestiynau byw. Mae hyn fel cyfweliad wyneb yn wyneb lle mae cyflogwr yn gofyn cwestiwn i chi a rydych chi’n ateb
Dylech baratoi ar gyfer cyfweliad ffôn a fideo mewn ffordd debyg i gyfweliad wyneb yn wyneb. Gan y byddwch chi'n defnyddio'r ffôn neu fideo bydd angen i chi feddwl am bethau eraill hefyd.
Pethau i feddwl amdanynt os bydd eich cyfweliad ar y ffôn neu fideo.
Fe ddylech:
Wneud yn siŵr eich bod mewn lle tawel. Rhaid i chi allu canolbwyntio ar yr alwad ffôn
Ysgrifennwch rai nodiadau am yr hyn rydych chi am ei ddweud. Er enghraifft, ysgrifennwch restr o'ch sgiliau i'ch atgoffa
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint o'r gloch sydd angen i chi ffonio'r cyflogwr neu pryd y bydd y cyflogwr yn eich ffonio chi. Bydd angen i chi wybod eu henw a'u rhif ffôn nhw
Gwnewch yn siŵr fod batri eich ffôn symudol yn llawn a bod gennych ddigon o gredyd
Ysgrifennwch restr o gwestiynau yr hoffech eu gofyn i'r cyflogwr.
Ceisiwch eistedd yn llonydd. Bydd hyn yn dangos i'r cyflogwr nad ydych wedi cynhyrfu
Gwnewch gyswllt llygad â'r cyflogwr. Edrychwch i mewn i'r camera ar y cyfrifiadur
Ar ddiwedd y cyfweliad fe ddylech:
- Ddiolch i'r cyflogwr am ei amser
- Ar gyfer cyfweliad ffôn, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi'r ffôn i lawr cyn i chi ddechrau siarad ag eraill
- Ar gyfer cyfweliad galwad fideo, gadewch y ddolen cyfweliad
Prif Awgrymiadau
Dyma ein prif awgrymiadau i'ch helpu baratoi at gyfweliad ffôn a fideo:
- Gwisgwch yn smart. Byddwch yn teimlo'n hyderus pan fyddwch wedi gwisgo'n smart er bod y cyflogwr ddim yn eich gweld yn llawn
- Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn y mae'r cyflogwr yn ei ddweud
- Ceisiwch wenu pan fyddwch chi'n siarad. Bydd hyn yn gwneud i chi deimlo a swnio'n bositif
- wnewch yn siŵr bod gwydraid o ddŵr gerllaw. Bydd hyn yn eich helpu os fydd ceg sych gyda chi
Efallai y byddech hefyd yn hoffi
Edrychwch ar rai o'n hawgrymiadau da i'ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad
Edrychwch ar ein hawgrymiadau da i'ch helpu ar ddiwrnod eich cyfweliad
Edrychwch ar rai enghreifftiau o gwestiynau cyfweliad