Skip to main content
Llywodraeth Cymru EnglishCymraeg

Prif Ganfyddiadau - Hynt disgyblion o ysgolion yng Nghymru 2022

Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET)

  • Yn 2022, roedd 1,066 o'r rhai sy’n gadael yr ysgol o Flwyddyn 11, 12 ac 13 y gwyddys eu bod yn NEET yng Nghymru, sef 1.9% o gyfanswm y garfan
  • Fel mewn blynyddoedd blaenorol, parhaodd carfan Blwyddyn 13 i fod â chanran uwch o NEET (2.8% (322) o unigolion) o gymharu â charfannau Blwyddyn 11 (2.1% - 664 o unigolion) a Blwyddyn 12 (0.7% - 80 o unigolion)
  • Canran y cwsmeriaid Blwyddyn 11 oedd yn methu â mynd i mewn i Gyflogaeth, Addysg neu Hyfforddiant (EET) oherwydd salwch, gofalu am eraill neu feichiogrwydd oedd 1.4%. Yn yr un categori, roedd canran cwsmeriaid Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13 yn 0.4% a 1.5% yn y drefn honno
  • Roedd canran y merched NEET Blwyddyn 11 nad ydynt yn gallu mynd i mewn i addysg cyflogaeth nac hyfforddiant eleni ychydig yn uwch nag ar gyfer bechgyn NEET (68.1% o ferched NEET a 65.8% o fechgyn NEET)

Parhau mewn Addysg Amser Llawn

  • Mae parhau mewn addysg amser llawn yn parhau i fod y dewis mwyaf poblogaidd o blith hynt disgyblion ym mhob un o'r tri grŵp blynyddoedd
  • Dewisodd canran uwch o ferched na bechgyn ar draws y tair carfan barhau mewn addysg amser llawn
Tabl yn dangos data carfan, bechgyn, merched a’r gwahaniaeth
Carfan Bechgyn Merched Gwahaniaeth
Blwyddyn 11 85.6% 90.2% 4.6 pwynt canran
Blwyddyn 12 93.5% 94.9% 1.3 pwynt canran
Blwyddyn 13 73.5% 79.5% 6.0 pwynt canran

Pan ddangosir newidiadau neu wahaniaethau o ran pwyntiau canrannol, cyfrifir y rhain gan ddefnyddio ffigurau heb eu talgrynnu. Gall hyn ddarparu ffigur gwahanol o gymharu â defnyddio ffigurau wedi'u talgrynnu.

Roedd cyfran uwch o'r rhai sy'n parhau mewn addysg amser llawn ar ôl Blwyddyn 11 wedi dewis Addysg Bellach dros chweched dosbarth ysgolion, o 19.8 pwynt canran.

  • Chweched Dosbarth 40.1%
  • Coleg AB 59.9%

Yn 2022, o’r rhai a ddosbarthwyd fel rhai sy’n parhau mewn Addysg llawn Amser, roedd mynd i addysg bellach (AB) yn llwybr mwy poblogaidd i fechgyn ac i ferched fel ei gilydd. Roedd y gwahaniaeth yn fwy ar gyfer bechgyn (62.2% yn mynd i AB, o gymharu â 37.8% yn aros yn yr ysgol) nag ar gyfer merched (57.5% yn mynd i AB, o gymharu â 42.5% yn aros yn yr ysgol).

Ym Mlwyddyn 11, Blwyddyn 12 a Blwyddyn 13, roedd canran uwch o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau mewn addysg llawn amser o gymharu â'r rhai sy’n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
Carfan Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 87.4% 92.9%
Blwyddyn 12 94.1% 95.4%
Blwyddyn 13 75.9% 84.5%

Ymuno â’r Farchnad Lafur – Llwybrau Gwaith a Hyfforddiant

  • Roedd canran y bobl ifanc a aeth i mewn i hyfforddiant a gwaith a gefnogir gan y Llywodraeth (statws Cyflogedig ac Anghyflogedig) ar ei huchaf ar gyfer y rheini ym Mlwyddyn 11 ar 4.4% (1,437 o unigolion). Aeth 1.2% (144 o unigolion) o garfan Blwyddyn 12 a 2.9% (327 o unigolion) o garfan Blwyddyn 13 i mewn i un o’r opsiynau hyn
  • Canrannau’r bobl ifanc a aeth yn syth i gyflogaeth oedd 3.4% ar gyfer Blwyddyn 11, 2.4% ar gyfer Blwyddyn 12 a 12.7% ar gyfer Blwyddyn 13
  • Roedd mynd i mewn i’r farchnad lafur (naill ai hyfforddiant yn y gweithle neu gyflogaeth) yn ddewis mwy poblogaidd ymhlith y bechgyn na'r merched ar draws pob un o’r tair carfan yn 2022
Tabl yn dangos canran y bechgyn a merched yn ôl grŵp blwyddyn sy'n dewis ymuno â'r farchnad lafur
Carfan Bechgyn Merched
Blwyddyn 11 9.5% 6.2%
Blwyddyn 12 4.0% 3.1%
Blwyddyn 13 17.8% 13.8%

Aeth canran llawer llai o'r rhai mewn grwpiau ethnig lleiafrifol i mewn i'r farchnad lafur (cyflogaeth neu hyfforddiant seiliedig ar waith) na'r rhai sy’n wyn.

Tabl yn dangos data carfan, gwyn a lleiafrifoedd ethnig
Carfan Gwyn Lleiafrifoedd Ethnig
Blwyddyn 11 8.4% 2.9%
Blwyddyn 12 3.8% 2.2%
Blwyddyn 13 16.5% 8.3%

Cyfradd Dim Ymateb

Roedd y 'Dim Ymateb' cyffredinol yn 1.6%. Roedd y ganran ar gyfer y gyfradd 'Dim Ymateb' ar ei huchaf ar gyfer carfan Blwyddyn 13, sef 4.1% (466 o unigolion).

Tabl yn dangos data cyfradd dim ymateb
Blwyddyn 11 1.0%
Blwyddyn 12 0.9%
Blwyddyn 13 4.1%

Gweld hynt disgyblion yn ôl grwpiau blwyddyn