Mae’n gyfnod cyffrous pan fyddwch yn penderfynu beth i'w wneud ar ôl eich TGAU. Ond rydyn ni’n gwybod y gall fod yn adeg ansicr weithiau hefyd. Gallwn eich helpu i ddeall beth yw eich opsiynau a rhoi syniadau i chi er mwyn eich helpu i ddewis.
Eich opsiynau
Dysgwch beth i’w ddisgwyl yn y coleg neu’r 6ed, pa gymorth ariannol y gallech ei gael a mwy.
Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ennill cymwysterau tra byddwch chi’n gweithio ac yn ennill cyflog. Chwiliwch am brentisiaethau yn eich ardal chi, dysgwch am brentisiaethau a lefelau prentisiaeth, a mynnwch gyngor ar sut i wneud cais.
Cymorth gyda'ch CV, ffurflenni cais, datganiadau personol, cyfweliadau, canfod swyddi, cysylltu â chyflogwyr a mwy.
Rhwng 16 ac 19 oed? Hyfforddiant a phrofiad gwaith ar gael i'ch helpu i benderfynu ar eich dyfodol chi ar eich telerau chi.
Dewch i weld a yw hunangyflogaeth yn addas i chi a lle i gael rhagor o gefnogaeth.
Gweld sut y gall gwirfoddoli gynyddu eich sgiliau, profiad a chyfleoedd gwaith tra rydych chi’n helpu eraill.
Gwneud penderfyniadau
Eich canllaw i ddewis cyrsiau ar ôl blwyddyn 11 gan gynnwys Safon Uwch, BTEC neu gyrsiau eraill.
Rhowch gynnig ar ein gemau gwneud penderfyniadau i ddysgu mwy am eich steil o wneud penderfyniadau, ac i wella eich sgiliau gwneud penderfyniadau.
Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau pan fyddwch yn gwybod eu bod am gael effaith ar eich dyfodol. Mae'r pecyn cymorth hwn ar wneud penderfyniadau yn awgrymu camau i’ch arwain trwy'r broses.
Cael syniadau
Ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf? Defnyddiwch ein adnoddau i ddod o hyd i feysydd a swyddi a allai fod yn addas i chi.
Archwilio swyddi a diwydiannau
Defnyddiwch ein adnoddau i gael mwy o wybodaeth am swyddi a diwydiannau gwahanol.
Edrychwch ar ein fideos Dyfodol Gwaith yng Nghymru. Bydd y fideos yn rhoi rhyw syniad i chi o ba swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn y dyfodol a pha sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.