Mae posib y bydd gweithwyr gofal iechyd, athrawon a gweithwyr cymdeithasol yn gymwys i gael cyllid i gefnogi gyda'u cyrsiau.
Mae cyllid ar gyfer cyrsiau'n gallu newid o flwyddyn i flwyddyn, felly mae'n bwysig gwirio gwefannau swyddogol y sefydliadau, neu gysylltu â nhw’n uniongyrchol i gael y manylion diweddaraf.
Rhai o’r opsiynau nawdd sydd ar gael
Gweithwyr cymdeithasol
Cymru
Bwrsariaeth gwaith cymdeithasol - Gofal Cymdeithasol Cymru
Lloegr
Bwrsariaeth gwaith cymdeithasol - NHS England (dolen Saesneg)
Athrawon
Cymru
Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Cymhelliant ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth - Llywodraeth Cymru
Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory - Llywodraeth Cymru
Cymhellion hyfforddi athrawon: myfyrwyr TAR (AB) - Llywodraeth Cymru
Cyllid Myfyrwyr Cymru - Gall athrawon dan hyfforddiant israddedig ac ôl-raddedig gael mynediad at yr un pecyn o gymorth cyllid myfyrwyr.
Lloegr
Cyllid hyfforddi athrawon - Gov.uk (dolen Saesneg)
Cyllid a chymorth - Get into Teaching, Gov.uk (dolen Saesneg)
Gweithwyr gofal iechyd
Cymru
Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru - Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Bwrsariaethau Meddygol a Deintyddol - Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru Myfyrwyr Meddygol a Deintyddol
Lloegr
Bwrsariaeth GIG - Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (dolen Saesneg)
Bwrsariaethau Meddygol a Deintyddol - GIG Lloegr (dolen Saesneg)
Efallai y byddech hefyd yn hoffi

Gwybodaeth am rai o’r opsiynau sydd ar gael i gefnogi’r camau nesaf ar ôl gadael ysgol.

Dewisiadau cyllid ar gyfer y chweched dosbarth a'r coleg, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Ariannol wrth Gefn.

Cyllid prifysgol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau Cyllid Myfyrwyr Cymru am ffioedd dysgu a chostau byw, sut mae ymgeisio ac ad-dalu.

Sut i wneud cais, yn cynnwys terfynau amser, mynychu diwrnodau agored, cyllid myfyrwyr a chlirio.

Bydd Cyfrif Dysgu Personol yn eich galluogi i astudio cyrsiau rhan-amser hyblyg wedi'u hariannu'n llawn o gylch eich cyfrifoldebau presennol.